Y Cynulliad ar drywydd Cewri’r Cymry

Cyhoeddwyd 31/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad ar drywydd Cewri’r Cymry

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n ceisio dod o hyd i Gewri’r Cymry ac am gael help gan y cyhoedd.

Mae’r Cynulliad yn lansio’r ymgyrch i ddod o hyd i hoff Gymro neu Gymraes y genedl ar 31 Ionawr gyda chymorth disgyblion Ysgol Pen-y-Garth. Bydd côr yr ysgol yn lansio cân arbennig ar gyfer Dydd Gwyl Dewi ac ar ôl y perfformiad, y plant fydd y bobl gyntaf i fwrw’u pleidlais.

Yn ystod mis Chwefror, caiff ymwelwyr â’r Senedd gyfle i enwebu eu hoff Gymro neu Gymraes. Bydd plant a fydd ar ymweliadau addysgol â’r Cynulliad yn defnyddio’r weithgaredd i ddysgu am y broses o bleidleisio a democratiaeth fel rhan o’u rhaglenni dysgu. Gall pobl o rannau eraill o Gymru anfon eu hawgrymiadau i’r Cynulliad ar gerdyn post i Cewri’r Cymry, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, RHADBOST SWC 3358, Bae Caerdydd, CF99 1GY. Caiff rhestr fer o ddeg o gewri eu cyhoeddi mewn da bryd erbyn dechrau pleidleisio ar Ddydd Gwyl Dewi. Bydd y cyfnod pleidleisio yn parhau tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Bydd Cewri’r Cymry yn rhan o amrywiaeth eang o weithgareddau yn y Senedd i nodi Dydd Gwyl Dewi. Bydd Gorymdaith Genedlaethol Dydd Gwyl Dewi yn gorffen yn yr adeilad am y tro cyntaf yn ei hanes a chaiff y gorymdeithwyr eu croesawu gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Llywydd. Ceir perfformiadau gan Gôr CF1, Cwmni Dawns Caerdydd, Band Drymiau Dur Ysgol Fitzalan a gweithgareddau am ddim megis peintio wyneb, lliwio a sesiynau blas ar ddysgu Cymraeg yn y Senedd o 12.00pm ymlaen.

Caiff yr Orymdaith ei threfnu gan wirfoddolwyr, gyda chefnogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chyngor Caerdydd a bydd yn cychwyn o’r Amgueddfa Genedlaethol am 1.15pm ac yn gorffen yn y Senedd am 2.15pm. Gwahoddir pawb i ymuno yn yr Orymdaith neu i groesawu’r gorymdeithwyr pan fyddant yn cyrraedd y Senedd. Gellir cael rhagor o wybodaeth yn www.stdavidsday.org