Y Cynulliad ar y brig unwaith eto o ran cyflogwyr LGBTQ+ yng Nghymru

Cyhoeddwyd 30/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/01/2020

Cyhoeddwyd mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r gweithle gorau yng Nghymru ar gyfer pobl LGBTQ+. Mae’r Cynulliad hefyd yn cadw ei le ymhlith 10 cyflogwr gorau y DU am y chweched flwyddyn yn olynol. 

Cafodd rhestr flynyddol Stonewall o’r gweithleoedd mwyaf cyfeillgar i bobl LGBTQ+ ei chyhoeddi heddiw, 30 Ionawr. Mae’r Cynulliad wedi cadw ei le ar frig y rhestr yng Nghymru ac mae yn yr wythfed safle ledled y DU – ac felly ymhlith 10 cyflogwr gorau’r DU am y chweched flwyddyn yn olynol.  

Mae Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall yn feincnod i gyflogwyr fesur eu cynnydd o ran cynnwys pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn y gweithle. Bob blwyddyn, cyhoeddir y 100 cyflogwr gorau yn y DU. 

Cafwyd y nifer uchaf erioed o geisiadau eleni, gydag enwau newydd yn dod i’r fei, gan nodi newid cadarnhaol i gyflogwyr LGBTQ+ ar draws ystod o sectorau a gweithleoedd ledled y DU. 

Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru, “Mae ein partneriaeth â Stonewall yn amhrisiadwy wrth i ni ymdrechu bob blwyddyn i feithrin gweithle cynhwysol a chefnogol ar gyfer cydweithwyr LGBTQ+.
  
“Bob blwyddyn, rydyn ni wrth ein boddau o weld enwau newydd yn cael eu cynnwys ar y rhestr; cyflogwyr newydd o ystod o sectorau sydd wedi ymrwymo i sicrhau newid er lles eu gweithwyr. Heb os, mae Mynegai Stonewall wedi chwarae rhan enfawr wrth ysbrydoli mwy a mwy o gyflogwyr bob blwyddyn i fynd ati i wella cynhwysiant. Ein nod ni yw annog, cefnogi ac ysbrydoli eraill, yng Nghymru a thu hwnt.”

Ychwanegodd Joyce Watson AC, Comisiynydd Cydraddoldeb Cynulliad Cenedlaethol Cymru, “Mae’n anrhydedd anhygoel cael ein cydnabod fel y cyflogwr gorau yng Nghymru eto eleni, gan gadw ein lle ymhlith y deg gorau ledled y DU am y chweched flwyddyn yn olynol. Rydyn ni’n dathlu gyda’r holl gyflogwyr eraill ar y rhestr. Gadewch i ni barhau i ysbrydoli ac annog ein gilydd i wneud yn well.

“Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi elwa dan arweiniad Stonewall wrth adeiladu gweithle cynhwysol a chefnogol i’n cydweithwyr LGBTQ+. Er bod llawer wedi’i gyflawni, ni allwn laesu dwylo, ac mae’r gwaith caled yn parhau.”

Mae rhwydwaith bywiog y Cynulliad i bobl LGBTQ+, sef OUT-NAW, hefyd wedi cael canmoliaeth frwd fel rhan o anrhydeddau blynyddol Stonewall. Mae aelodau’r rhwydwaith a chyfeillion yn gweithio’n ddiflino i gynnal digwyddiadau, sy’n cynnig cyfleoedd cymdeithasol yn ogystal â hybu dealltwriaeth a chynnig cymorth i gydweithwyr ar draws y gweithle. 

Drwy gydol mis Chwefror, bydd y rhwydwaith yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau mewnol i nodi Mis Hanes LGBT ac, er mwyn nodi diwrnod cyntaf y cyfnod coffa, bydd golygfa ysblennydd i’w gweld ym Mae Caerdydd wrth i’r Senedd gael ei goleuo yn lliwiau baner yr enfys.

Bob blwyddyn, mae’r Cynulliad yn cefnogi nifer o ymgyrchoedd a digwyddiadau coffa sy’n gysylltiedig â chymunedau LGBTQ+. O orymdaith PRIDE Cymru i oleuo cannwyll i nodi Dydd y Cofio Trawsryweddol, mae’r Cynulliad yn rhan o’r drafodaeth ar faterion allweddol sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb a chynhwysiant. Fel cydnabyddiaeth o waith diweddar, ym mis Hydref 2019, cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei gydnabod yn seremoni wobrwyo PINK News fel enghraifft flaenllaw o gydraddoldeb yn y gweithle i bobl LGBTQ+ yn y sector cyhoeddus

Mae gwybodaeth am strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant y Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd â’r newyddion diweddaraf a gwybodaeth am lwyddiannau ar gael ar wefan y Cynulliad