Y Cynulliad Cenedlaethol yn arbrofi â’r cyfryngau cymdeithasol - Diwrnod ym mywyd #POSenedd

Cyhoeddwyd 18/02/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad Cenedlaethol yn arbrofi â’r cyfryngau cymdeithasol - Diwrnod ym mywyd #POSenedd

18 Chwefror 2014

Bydd ffrwd Twitter Cynulliad Cenedlaethol Cymru @CynulliadCymru yn dilyn diwrnod ym mywyd y Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC, ar 19 Chwefror.

Am y tro cyntaf yn hanes y Cynulliad, bydd y Fonesig Rosemary yn defnyddio Twitter i ddangos y math o waith y mae’r Llywydd yn ei wneud bob dydd.

Bydd dilynwyr @CynulliadCymrua #POsenedd yn gallu gweld beth y mae’r Llywydd yn ei wneud yn ystod diwrnod gwaith prysur arferol.

“Rwy’n credu bod hon yn ffordd dda o ddangos i gynulleidfa ehangach beth yw gwaith y Cynulliad Cenedlaethol, a swydd y Llywydd yn benodol,” meddai’r Fonesig Rosemary.

“Mae’n anrhydedd mawr gwasanaethu fel Llywydd ac mae pob diwrnod yn wahanol, ond maent bob amser yn ddiddorol ac yn aml yn gyffrous.

“Mae fy nyletswyddau’n amrywio o gadeirio Cyfarfod Llawn swyddogol y Cynulliad i gyfarfod â phobl o bob rhan o gymdeithas mewn derbyniadau yn y Senedd.

“Gobeithio y medrwch ymuno â mi i rannu ychydig o eiliadau y tu ôl i’r llenni ym mywyd y Cynulliad.”

Gallwch ddilyn #POSenedd o 08.30 ymlaen.