Y Cynulliad Cenedlaethol yn cael achrediad fel sefydliad sydd ag ymwybyddiaeth o bobl fyddar am yr ail flwyddyn yn olynol

Cyhoeddwyd 30/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/07/2015

Mae gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymrwymiad i leihau'r rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar neu bobl sy'n drwm eu clyw.

Mae'r ymrwymiad hwn wedi cael ei gydnabod gan yr elusen Action on Hearing Loss sydd wedi achredu Cynulliad Cenedlaethol gyda'r nod siarter Yn Uwch na Geiriau am yr eildro.

Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd: "Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gwaith y Cynulliad yn hygyrch i bawb yng Nghymru, ac mae darparu gwasanaethau sy'n hygyrch i bobl fyddar neu sy'n drwm eu clyw yn rhan allweddol o'r ymrwymiad hwnnw."

Mae deg safon ansawdd yn rhan o'r siarter, a defnyddir y safonau hyn i benderfynu pa mor hygyrch yw'r Cynulliad ar gyfer staff, ymwelwyr a defnyddwyr ei wasanaethau.

Mae'r gwaith a wnaed gan y Cynulliad i wella hygyrchedd yn cynnwys:

  • hyfforddiant cydraddoldeb i'r holl staff, a hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o fod yn fyddar a Iaith Arwyddion Prydain;

  • cael system dolen gynhwysfawr yn ein hystÂd;

  • cael polisïau a gweithdrefnau ar waith i gefnogi staff sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw;

  • cael Rhwydwaith Staff Anabl prysur;

  • sicrhau bod staff yn ymwybodol o'r math gwahanol o gymorth sydd ar gael iddynt gyfathrebu  phobl; a

  • cynhyrchu fideo gydag isdeitlau ar gyfer pob sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog (FMQs) a gweithio gydag S4C ar gynllun peilot i ddarparu'r cwestiynau gyda dehongliad iaith arwyddion.

Dywedodd Richard Williams, Cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru: "Rydym yn falch, unwaith eto, bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dangos ei ymrwymiad i bobl sy'n fyddar neu sydd  nam ar y clyw.

Mae ein safonau arfer gorau Yn Uwch na Geiriau yn cydnabod sefydliadau sy'n cynnig lefelau rhagorol o wasanaeth a hygyrchedd ar gyfer cwsmeriaid, ymwelwyr a gweithwyr sy'n fyddar neu sydd  nam ar y clyw. Mae colli clyw yn effeithio ar un o bob chwech o bobl yng Nghymru felly mae'n galonogol gweld Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sicrhau y gall pawb gael mynediad at ei wasanaethau hanfodol."