Y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei adnabod fel sefydliad enghreifftiol o ran materion cydraddoldeb
31 Awst 2012
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2011-12.
Mae’r adroddiad yn crynhoi blwyddyn olaf gweithredu Cynllun Cydraddoldeb y Comisiwn 2008-2012.
Ers i’r cynllun gael ei gyhoeddi, mae’r Cynulliad wedi cynyddu ei ymgysylltiad â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ledled Cymru, wedi datblygu polisïau cynhwysol i staff ac wedi gwella’r dulliau sydd ar gael i gefnogi Aelodau’r Cynulliad.
Mae ei waith yn y maes hwn wedi arwain at y Cynulliad yn cael ei gydnabod fel sefydliad enghreifftiol.
Er Enghraifft, safle’r Cynulliad ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2012 yw rhif 20. Mae’r Mynegai’n rhestru’r gweithleoedd mwyaf hoyw-gyfeillgar ym Mhrydain, ac rydym yn falch ein bod wedi gwella’n safle ar y rhestr am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: "Mae cydraddoldeb wedi bod yn un o egwyddorion craidd y Cynulliad erioed, ac mae ein hymrwymiad i hybu cyfle cyfartal a herio gwahaniaethu yn parhau.
"Mae cydraddoldeb yn seiliedig ar y cysyniadau o degwch, urddas a pharch, ac mae’n faes yr ydym wedi ymrwymo’n bersonol iddo.
"Cafwyd llawer o uchafbwyntiau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy’n destun dathlu yn yr adroddiad hwn. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn y ffaith ein bod yn ymgysylltu â phobl Cymru a’n bod wedi croesawu llawer o westeion ardderchog.
"Rydym wedi cael y pleser o gyfarfod ag ystod eang o’r bobl yr ydym yn eu cynrychioli, drwy amrywiaeth o gyfleoedd a oedd yn cynnwys siarad ar y prif lwyfan ym Mardi Gras Caerdydd-Cymru, dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda grwp o fenywod gwirioneddol ysbrydoledig, croesawu Archesgob Caergaint i siarad yn adeilad y Pierhead ac ymweld â grwpiau amrywiol ledled Cymru.
"Mae’r gydnabyddiaeth a’r gwobrau yr ydym wedi eu cael gan gyrff allanol megis Stonewall Cymru hefyd yn dangos ein bod o ddifrif ynghylch ein hymrwymiad i fod yn sefydliad gwiriosandyneddol amrywiol a blaengar."
Mae uchafbwyntiau rhaglen gydraddoldebau’r Cynulliad yn ystod 2011-12 yn cynnwys:
Hybu ymgysylltiad democrataidd drwy ein hymgyrch ‘Pleidleisiwch 2011’. Cafodd yr ymgyrch hon ei chreu i annog pobl i bleidleisio yn etholiad y Cynulliad a’r refferendwm. Fel rhan ohoni, gwnaethom sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei chynhyrchu mewn ystod o fformatau hygyrch;
Datblygu’r ffordd yr ydym yn ymgysylltu â phobl amrywiol Cymru. Rydym wedi parhau i groesawu ystod eang o ymwelwyr â’r Cynulliad ac wedi gweithio mwy gyda grwpiau cymunedol amrywiol a sefydliadau’r trydydd sector ledled Cymru;
Helpu ein rhwydweithiau staff i chwarae rôl weithredol wrth asesu effaith ein polisïau;
Cael ein henwi ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2012 am ddod yn safle rhif 20. Mae’r Mynegai’n rhestru’r gweithleoedd mwyaf hoyw-gyfeillgar ym Mhrydain, ac rydym yn falch ein bod wedi gwella’n safle ar y rhestr am y bedwaredd flwyddyn yn olynol;
Helpu aelodau o staff i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Gan adeiladu ar ein hyfforddiant ynghylch ymwybyddiaeth o fod yn fyddar, mae nifer o staff wedi bod ar gyrsiau Iaith Arwyddion Prydain, gydag un grwp yn cwblhau’r cwrs Lefel 2;
Cynnal ystod eang o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan grwpiau amrywiol. Rydym wedi nodi amrywiaeth o achlysuron, gan gynnwys Mis Hanes Pobl Dduon, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd a digwyddiad i lansio Diverse Cymru.
Darparu gwybodaeth a chefnogaeth i Aelodau Cynulliad mewn perthynas â chydraddoldeb. Yn dilyn yr etholiad ym mis Mai 2011, gwnaethom ddatblygu amrywiaeth o daflenni gwybodaeth i roi gwybod i Aelodau am eu cyfrifoldebau fel cyflogwyr a darparwyr gwasanaeth o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Ymgynghori’n eang ag ystod o grwpiau amrywiol ledled Cymru wrth ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb newydd ar gyfer 2012-2016.
Ychwanegodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad Cenedlaethol â Chyfrifoldeb am Gydraddoldeb: "Rydym wedi gwneud cynnydd mawr wrth gyrraedd ein targedau llym ein hunain o ran cydraddoldeb.
"Ond rhaid i ni beidio â llaesu dwylo. Er gwaetha’r cynnydd da yr ydym wedi ei wneud ers cyhoeddi ein Cynllun Cydraddoldeb cyntaf yn 2008, rydym yn cydnabod bod angen i ni barhau i wella.
"Ein nod yw bod yn sefydliad sy’n batrwm i eraill ei ddilyn o safbwynt y modd yr ydym yn cynorthwyo ein staff, Aelodau’r Cynulliad ac aelodau’r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb newydd, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2012, yn amlinellu sut y byddwn yn parhau i hybu cydraddoldeb er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau, ein gwybodaeth a’n hadeiladau yn hygyrch i bawb."
Bydd y Cynulliad yn anelu i gyflawni nifer o amcanion uniongyrchol yn 2012.
Mae’r amcanion hyn yn cynnwys:
Creu rhaglen hyfforddiant penodol ar gydraddoldeb i staff;
Cynnal archwiliad hygyrchedd ar ystâd y Cynulliad;
Gwella hygyrchedd ein gwybodaeth;
Gwella’r modd yr ydym yn casglu data cydraddoldeb am ein staff;
Cyflwyno dull o gynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb; a
Lansio rhwydwaith staff amlddiwylliannol a rhwydwaith staff i fenywod.