Y Cynulliad Cenedlaethol yn croesawu Dirprwy Uwch Gomisiynydd Awstralia i’r Senedd
22 Mawrth, 2010Bydd Adam McCarthy, Dirprwy Uwch Gomisiynydd Awstralia i’r Deyrnas Unedig, yn ymweld â Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mercher a dydd Iau 24/25 Mawrth.
Caiff y Dirprwy Uwch Gomisiynydd – sydd wedi bod yn y swydd ers mis Ebrill 2009 – ei gyfarch gan y Llywydd ac Aelodau Cangen Cymru Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad.
Mae Mr McCarthy wedi nodi sawl rheswm am ei ymweliad ac y mae’n awyddus i gyfarfod â ffigyrau o’r pleidiau gwleidyddol a sylwebyddion ar ddatganoli a gwleidyddiaeth yng Nghymru.
Yn ystod ei ymweliad bydd yn cael cyfarfodydd â’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Llywydd, Rosemary Butler, y Dirprwy Lywydd, Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Athro Laura McAllister.
Bydd hefyd yn gwylio Cyfarfod Llawn ac yn cael taith o amgylch y Senedd.
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad: “Pleser i mi yw croesawu Mr McCarthy ar ei ymweliad cyntaf â Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
“Y mae’r gallu i ddangos ymwelwyr beth yr ydym yn ei wneud yng Nghymru bob amser yn beth positif, ac rwy’n gobeithio y bydd Mr McCarthy yn cael ymweliad boddhaus a llawn gwybodaeth.”