Y Cynulliad Cenedlaethol yn ennill tystysgrif y Ddraig Werdd am y chweched tro yn olynol.

Cyhoeddwyd 24/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad Cenedlaethol yn ennill tystysgrif y Ddraig Werdd am y chweched tro yn olynol.

24 Gorffennaf 2013

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ennill tystysgrif Lefel 5 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd unwaith eto yn dilyn archwiliad allanol gan Groundwork Cymru.

Mae Groundwork Cymru yn rhwydwaith adfywio blaenllaw sy'n datblygu cymunedau cynaliadwy ledled Cymru, ac mae'n gorff archwilio achrededig ar gyfer gwobrau'r Ddraig Werdd.

Am y chweched blwyddyn yn olynol, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ennill tystysgrif ar y lefel uchaf am ei gynaliadwyedd.

Dywedodd y Llywydd, Rosemary Butler AC, “Un o amcanion strategol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad yw ‘defnyddio adnoddau'n ddoeth’”.

“Mae'r wobr hon yn amlygu'r gwaith da y mae Aelodau, staff y Cynulliad a chontractwyr allanol yn ei wneud i sicrhau ein bod yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd lleol, fan fydd hynny'n bosibl.

“Ein nod yn yr hirdymor yw datblygu Cynulliad cynaliadwy sy'n barod am heriau busnes y dyfodol, a bob blwyddyn, byddwn yn datblygu ar ein cynnydd i wella ein gallu i wynebu effeithiau newid yn yr hinsawdd na allwn eu darogan.

“Mae ennill y dystysgrif hon unwaith eto yn cadarnhau’r gwaith caled sy'n cael ei wneud i sicrhau ein bod yn parhau i ateb y gofynion ac mae'n ysgogi ein dull o weithio’n gynaliadwy o ran sut rydym yn rheoli a lleihau ein hôl troed carbon.”