Y Cynulliad Cenedlaethol yn galw am asesiad risg o’r broses ad-drefnu gwasanaethau gwylwyr y glannau

Cyhoeddwyd 23/02/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad Cenedlaethol yn galw am asesiad risg o’r broses ad-drefnu gwasanaethau gwylwyr y glannau

23 Chwefror 2012

Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am gynnal asesiad risg annibynnol o’r cynigion i ad-drefnu gwasanaethau gwylwyr y glannau yng Nghymru.

Mae’r argymhelliad yn rhan o ymchwiliad i oblygiadau posibl y newidiadau a awgrymir gan Lywodraeth y DU i Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau.

Cynhaliwyd yr ymchwiliad pan gafodd y Pwyllgor ddeiseb ac arni bron i 300 o lofnodion, gyda phob un yn galw am gynnal asesiad risg annibynnol yng Nghymru.

Mae cynigion Llywodraeth y DU yn cynnwys cau gorsaf gwylwyr y glannau Abertawe a chydgysylltu gweithrediadau ar gyfer yr ardal o bosibl mewn gorsafoedd a leolir mewn mannau eraill yn y DU.

Clywodd y Pwyllgor y byddai cau’r orsaf yn arwain at golli gwybodaeth leol arbenigol am arfordir yr ardal.

Codwyd pryderon hefyd am y cyfnod amser ymddangosiadol fyr a gymerodd i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei hasesiad risg ei hun ar ôl cael 1,700 ymateb i’r cynigion.

Er nad yw’r pwerau dros Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wedi’u datganoli, mae’r Pwyllgor Deisebau o’r farn bod modd i Lywodraeth Cymru gomisiynu ei asesiad risg ei hun, oherwydd goblygiadau posibl yr ad-drefnu i bobl sy’n gweithio yn ardaloedd arfordirol Cymru neu’n ymweld â hwy.

Dywedodd William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau: “Ar ôl ystyried y materion sy’n ymwneud â’r ddeiseb, mae’r Pwyllgor yn bendant fod y mater hwn o bwys mawr i ddefnyddwyr ein glannau a’r rhai sy’n ymweld â hwy.

“Mae’n rhy gynnar i ddweud a oes sail gadarn i’r pryderon a nodir yn yr adroddiad hwn, ond o gofio’r brys canfyddedig i gyhoeddi’r adroddiadau risg, sef llai na chwech wythnos ar ôl cael 1,700 o ymatebion i ymgynghoriad, mae’n hawdd deall y pryderon.

“Clywodd y Pwyllgor gan nifer o unigolion a sefydliadau sy’n pryderu’n fawr am y newidiadau arfaethedig i Wasanaeth Gwylwyr y Glannau. O gofio pa mor daer yw teimladau pobl am y mater, teimla’r Pwyllgor ei bod yn hollbwysig bod Llywodraeth Cymru’n dal ati i herio penderfyniad Llywodraeth y DU.”