​Y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn barn pobl ifanc yn Eisteddfod yr Urdd

Cyhoeddwyd 21/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/05/2015

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili yr wythnos nesaf, i gasglu barn pobl ifanc rhwng 11 a 25 mlwydd oed ynghylch gostwng yr oedran pleidleisio yng Nghymru.

Bydd bws y Cynulliad yn ganolbwynt i bobl ifanc sydd am gael dweud eu dweud ar y drafodaeth ynghylch #Pleidleisio16Cymrudrwy gydol yr wythnos, a byddwn yn casglu barn ar y pwnc hwn fel rhan o'r ymgynghoriad, sy'n dod i ben ar 2 Mehefin 2015.

Mae'r ymgynghoriad ar ostwng yr oedran pleidleisio eisoes wedi dechrau, ac mae ar y trywydd iawn i fod yr ymgynghoriad mwyaf erioed a gynhaliwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc.

I gynorthwyo i hyrwyddo'r neges, mae'r Cynulliad wedi ymuno â Bwrdd Syr IfanC yr Urdd, sydd â'r rôl o gynghori Cyngor yr Urdd ar bolisïau'n ymwneud â'r gweithgareddau cenedlaethol a gynigir i'w aelodau sydd rhwng 15 a 25 mlwydd oed.

Bydd aelodau'r Bwrdd yn cymryd rhan mewn trafodaeth, a gynhelir ar y bws ddydd Iau 28 Mai am 11.30 o'r gloch y bore ynghylch gostwng yr oedran pleidleisio, ac yn gwyntyllu barn yn gyffredinol am etholiadau a gwleidyddiaeth.