Y Cynulliad Cenedlaethol yn helpu i arddangos cyfraniad Prifysgolion i fywyd Cymru

Cyhoeddwyd 11/06/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad Cenedlaethol yn helpu i arddangos cyfraniad Prifysgolion i fywyd Cymru

11 Mehefin 2013

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi croesawu Prifysgolion Cymru i'r Senedd er mwyn arddangos cyfraniad y sector hwn i economi Cymru.

Dengys gwaith ymchwil newydd, a gomisiynwyd gan Addysg Uwch Cymru, bod y sector addysg uwch yng Nghymru yn creu degau o filoedd o swyddi gan gynhyrchu tua 3 y cant o gynnyrch mewnwladol crynswth y genedl.

Mae ymgyrch Prifysgolion Cymru Addysg Uwch Cymru – Tanio Tyfiant yn gyfres o ddigwyddiadau wythnos o hyd (10 – 14 Mehefin) a gynhelir mewn prifysgolion a lleoliadau eraill ledled Cymru i nodi cyfraniad y sector addysg uwch.

Mae'r Cynulliad yn cefnogi'r ymgyrch drwy gynnal arddangosfeydd a digwyddiadau ar ei ystâd yn ystod yr wythnos.

Dywedodd y Llywydd: "Rwy'n falch bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn helpu i nodi'r cyfraniad canolog mae ein prifysgolion yn ei wneud i economi a bywyd Cymru."

"Mae'r gwaith ymchwil newydd yn datgelu'r rôl sylfaenol y maent yn ei chwarae wrth greu swyddi, arloesi ym maes technoleg a darparu cyfleusterau i'n cymunedau ledled Cymru.

"Mae'n iawn fod corff gwneud deddfau Cymru yn cydnabod yr ymrwymiad hwn drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol yr wythnos, fel rhan o gefnogaeth barhaus y Cynulliad i'r sector Addysg Uwch."

Bydd stondinau arddangos gan brifysgolion ledled Cymru yn y Senedd yn ogystal â lansiad Canolfan Genedlaethol Prifysgolion a Busnes Cymru.

Dywedodd yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor a Chadeirydd Addysg Uwch Cymru: "Tra'i bod hi wastad wedi bod yn amlwg bod ein prifysgolion o bwys sylweddol i Gymru wrth gefnogi datblygiad economaidd drwy addysg ac ymchwil, mae'r ffigyrau hyn yn dangos pa mor hanfodol yw'r cyfraniad a wneir gan brifysgolion i'w cymunedau lleol, a'r economi ehangach yng Nghymru drwy gefnogi miloedd o swyddi canlyniadol y tu allan i gampysau.

"Am bob £1 o refeniw sefydliadol addysg uwch Cymru, mae'r adroddiad hwn yn dangos fod £1.03m pellach yn cael ei gynhyrchu ar gyfer economi Cymru.  Os ychwanegwch y canfyddiadau hyn i ganlyniadau positif Cymru yn Arolwg Rhyngweithiad Addysg Uwch-Busnes a Chymuned, a ddangosodd fod prifysgolion Cymru'n perfformio'n well na'r disgwyl wrth gyfrannu at yr economi, cewch ddarlun o sector sydd mewn man delfrydol i yrru twf economaidd yn y dyfodol mewn ymgais i greu Cymru fwy llewyrchus."

Llun chwith I’r dde: Ursula Kelly, awdur ymchwil; Rosemary Butler AC, Llywydd; Athro John Hughes, Cadeirydd Addysg Uwch Cymru