Y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau a’i ymgyrch i leihau allyriadau carbon

Cyhoeddwyd 10/08/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau a’i ymgyrch i leihau allyriadau carbon  

10 Awst 2011

Mae ffigurau newydd y dangos bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon.

Maent yn dangos bod y Cynulliad hanner ffordd tuag at ei nod o gyflawni’r targed heriol a bennwyd gan ei gorff gweinyddol, sef Comisiwn y Cynulliad, yn 2009.

Bryd hynny, roedd gan y Comisiwn ymrwymiad i sicrhau lleihad o 40 y cant mewn allyriadau ynni erbyn 2015.

BYn ol ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos hon, mae’r Comisiwn wedi sicrhau lleihad o 19 y cant mewn allyriadau ynni, o’u cymharu a’r ffigurau a welwyd yn 2008/09.

“Mae gweithio’n gynaliadwy yn gyfrifoldeb statudol i Gomisiwn y Cynulliad. O ran yr adnoddau y mae eu hangen arnom, ynni yw’r adnodd a ddefnyddiwn fwyaf, a hynny yn bennaf ar gyfer goleuo ein hadeiladau a chyflenwi pwer iddynt,” dywedodd Peter Black AC, un o Gomisiynwyr y Cynulliad.

“Mae’r ffigurau diweddaraf yn foddhaol ac yn dangos bod y camau rydym wedi’u cymryd yn cael effaith gadarnhaol. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio gwres a thrydan yn fwy effeithlon, gan gynnwys defnyddio system biomas y Senedd, a chodi ymwybyddiaeth am y materion hyn ymhlith Aelodau’r Cynulliad a staff.

“Ochr gadarnhaol y stori hon yw ein bod hanner ffordd tuag at gyflawni’r targed heriol a bennwyd gennym; ochr arall y stori yw bod hanner y daith yn parhau i fod o’n blaenau.

“Gyda rhagor o arloesi a syniadau ynghylch ein defnydd o ynni, ynghyd a chefnogaeth barhaus gan bawb sy’n gweithio yma neu’n ymweld a’r Cynulliad, rwyf yn hyderus y byddwn yn agosau at ein nod o fod yn Gynulliad cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”

Mae rhagor o wybodaeth am y Senedd a’i nodweddion cynaliadwy ar gael yma.