Y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau a'i ymrwymiad i atebolrwydd ac arfer gorau gan benodi cynghorwyr annibynnol newydd

Cyhoeddwyd 14/11/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau a'i ymrwymiad i atebolrwydd ac arfer gorau gan benodi cynghorwyr annibynnol newydd

14 Tachwedd 2012

Bydd cyfoeth o brofiad o fyrddau, llywodraeth a'r sector cyhoeddus, ar y lefelau uchaf, yn helpu'r Cynulliad Cenedlaethol i fodloni ei safonau uchel ei hun o lywodraethu da a defnydd effeithiol o fericarian cyhoeddus.

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi penodi tri chynghorwr annibynnol newydd, a fydd yn dod yn lle'r cynghorwyr presennol yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae'r Comisiwn yn defnyddio cynghorwyr annibynnol i sicrhau bod Comisiynwyr ac uwch dîm rheoli'r Cynulliad yn cael eu cynorthwyo a'u herio mewn modd adeiladol wrth eu gwaith.

Dyna pam dim ond ymgeiswyr â phrofiad helaeth mewn busnes, diwydiant a sectorau eraill a ystyriwyd ar gyfer y swyddi.

Bydd y cynghorwyr yn ymwneud â gwaith monitro perfformiad ac yn cadw golwg beirniadol ar reolyddion ariannol a gweithdrefnau rheoli risg y Cynulliad fel aelodau o Bwyllgor Archwilio'r Comisiwn.

Dywedodd Rosemary Butler AC, y Llywydd, "Mae'n iawn ac yn briodol bod corff deddfu Cymru yn cadw'r safonau uchaf posibl ym mhob peth y mae'n ei wneud.".

“Mae gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol gyllideb o £47 miliwn y flwyddyn a'n nod yw cyrraedd y safonau uchaf posibl, boed hynny wrth wario arian cyhoeddus yn y ffordd mwyaf effeithiol, neu'r modd rydym ni'n rhoi cymorth seneddol i Aelodau.

“O ganlyniad, rwyf wrth fy modd ein bod wedi denu ymgeiswyr o'r radd flaenaf, gyda chymaint o ystod o arbenigedd mewn gwahanol sectorau busnes ac o wahanol gefndiroedd.

Y cynghorwyr yw:

Helena Feltham

Mae Helena wedi cael gyrfa hir ym maes Manwerthu ac arwain Adnoddau Dynol. Mae wedi bod yn aelod o fwrdd fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Marks & Spencer a Chyfarwyddwr Adnoddau Dynol Woolworths De Affrica, cyn dychwelyd i'r DU yn 2005 pan ddaeth yn bartner yn Odgers Ray and Bernedtson yn gwneud ymchwil weithredol. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol Jack Wills Ltd.

Mae hi hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr anweithredol ar Ymddiriedolaeth GIG, ac ar hyn o bryd mae hi'n Ynad Heddwch.

Eric Gregory

Ar hyn o bryd, mae Eric yn Gyfarwyddwr anweithredol gyda Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau y Swyddfa Gartref a Rhaglen Trawsnewid Cofrestru Etholiadol Swyddfa’r Cabinet. Mae newydd orffen tair blynedd o fod yn Gyfarwyddwr anweithredol i Wasanaeth Erlyn y Goron Llundain, ac yn gadeirydd ar y Pwyllgor Newid, Risg ac Archwilio.

Bu Eric yn gweithio i Bartneriaeth John Lewis rhwng 1983 a 2009. Yn ystod ei gyfnod yno, bu'n Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol a TG, yn aelod o fwrdd John Lewis, Cyfarwyddwr TG ac aelod o fwrdd Waitrose, a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfrifiadurol.

Keith Baldwin

Mae Keith wedi bod yn bartner yn PricewaterhouseCoopers (PWC) am 20 mlynedd, ac yn fwyaf diweddar fel Dirprwy Bartner yn gyfrifol am ymgynghori â'r Llywodraeth. Yn ogystal, bu'n arwain gwaith rheoli risg busnes cynghori PWC.

Ers 2010, mae wedi bod yn aelod anweithredol o'r bwrdd ac yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio gyda CVQO Ltd (sy'n helpu pobl ifanc i gael cymhwysterau galwedigaethol). Mae wedi bod yn aelod anweithredol o'r cyngor ac yn aelod o Bwyllgor Archwilio amgueddfa genedlaethol y fyddin ers 2010. Roedd yn Gyfarwyddwr anweithredol bwrdd astudiaethau barnwrol (yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder) rhwng 2007 a 2011.