Y Cynulliad Cenedlaethol yn ymrwymo i fod yn sefydliad dementia-gyfeillgar

Cyhoeddwyd 26/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/02/2015

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hyrwyddo hawliau'r 45,000 o bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru, a'r rhai sy'n gofalu amdanynt, drwy wneud addewid i fod yn sefydliad dementia-gyfeillgar.

Bydd Cynulliad dementia-gyfeillgar yn codi ymwybyddiaeth o ddementia ymhlith Aelodau'r Cynulliad, cymuned ehangach y Cynulliad a chymdeithas Cymru yn ei chyfanrwydd, ac yn helpu iddynt ddeall y cyflwr yn well.

Bydd yn cynnwys Aelodau'r Cynulliad, eu staff a staff o bob rhan o ystâd y Cynulliad.

Dywedodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros faterion cydraddoldeb: "Drwy sicrhau bod mynediad cyfartal i bobl sy'n byw gyda dementia, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dangos bod croeso i bobl â dementia gymryd rhan mewn bywyd dinesig a bod ganddynt y gallu i wneud hynny.

"Bydd y cam o ehangu ymwybyddiaeth Aelodau o ddementia yn sicrhau eu bod yn cynnal trafodaeth wybodus a chadarnhaol wrth ddeddfu ar faterion sy'n effeithio ar bobl â dementia a'u gofalwyr.

"Bydd hefyd yn eu galluogi i gynorthwyo etholwyr y mae dementia yn effeithio arnynt.

"Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio gyda Chymdeithas Alzheimer's i ddarparu lefel briodol o wasanaeth i bobl sydd â dementia."

O dan y cynllun hwn, bydd y Cynulliad yn:

  • sicrhau bod sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia Cymdeithas Alzheimer's yn cael eu darparu i staff sy'n cyfathrebu â'r cyhoedd fel bod ganddynt y sgiliau priodol i ymateb i ymwelwyr allanol sy'n byw gyda dementia;
  • sicrhau bod staff sydd â chyfrifoldebau gofalu yng nghyd-destun pobl sy'n byw gyda dementia yn cael eu cyfeirio at y gefnogaeth sydd ar gael drwy Gymdeithas Alzheimer's; a
  • darparu sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, eu staff, staff Comisiwn y Cynulliad, a chontractwyr sy'n gweithio ar yr ystâd, er mwyn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i helpu etholwyr a phobl y maent yn cyfathrebu â hwy sy'n byw gyda dementia.

Mae bron i hanner Aelodau'r Cynulliad eisoes yn Gyfeillion Dementia.

Dywedodd Sue Phelps, Cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer's yng Nghymru: "Rydym yn falch iawn bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud yr ymrwymiad hwn.  Mae ei addewid yn cefnogi ymgyrch Cymdeithas Alzheimer's i annog cymunedau, busnesau a sefydliadau eraill i weithio tuag at y nod o fod yn fwy dementia-gyfeillgar, ac yn helpu'r broses o greu amgylcheddau gwell i bobl i fyw yn dda gyda dementia cyhyd ag y bo modd.

"Yn awr, mae angen i bawb wneud newidiadau er mwyn grymuso pobl sydd â dementia a'u helpu i fyw'n dda yn eu cymunedau."

 

O'r chwith i'r dde yn y llun mae Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros faterion cydraddoldeb, a Sue Phelps, cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer's Cymru.