Y Cynulliad i ddathlu Diwrnod y Plant yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

Cyhoeddwyd 09/07/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad i ddathlu Diwrnod y Plant yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen     

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dathlu diwrnod y plant ddydd Mawrth 10 Gorffennaf ar ei stondin arddangos yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen gyda chymorth grwp cerddorol, ‘Y Gwallgofiaid.’   Bydd Mr. Lime, sef masgot amgylcheddol yr wyl, sydd yno i ddysgu plant am ailgylchu ac arbed adnoddau, yn falch o weld y cerddorion yn helpu plant i wneud offerynnau cerdd drwy ailgylchu hen eitemau o’r cartref ac wedyn yn defnyddio offer samplu electronig i recordio’r gerddoriaeth y maent yn ei greu.  Y nod yw creu cerddoriaeth a rhythmau er mwyn cadw at thema’r wyl sef ‘Gwarchod Adnoddau Gwerthfawr,’ a pherfformio’r darn cerddoriaeth ar ddiwedd y dydd.