Y Cynulliad i drafod adroddiad allweddol ar lifogydd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 27/04/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad i drafod adroddiad allweddol ar lifogydd yng Nghymru

27 Ebrill 2010

Heddiw, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod adroddiad beirniadol ynghylch rheoli llifogydd yng Nghymru.

Yn gynharach eleni, rhyddhawyd canfyddiadau ymchwiliad y Pwyllgor Cynaliadwyedd, sy’n bwyllgor trawsbleidiol, i’r problemau a achosir gan lifogydd a sut y mae mynd i’r afael â’r problemau hynny.

Argymhella’r adroddiad, a ddeilliodd o’r ymchwiliad, fod angen sefydlu un asiantaeth gyffredinol er mwyn rhoi terfyn ar y dryswch a’r gofid y mae pobl yn eu dioddef o ganlyniad i’r llifogydd gyda diogelwch eu cartrefi a’u bywoliaethau o dan y lach.

O ymweld â chymunedau ledled Cymru yr heffeithiwyd gan lifogydd, clywodd y Pwyllgor straeon am effaith ddinistriol llifogydd gan gynnwys cartrefi yn cael eu dinistrio gan garthffosiaeth yn gorlifo neu deuluoedd a oedd wedi methu cael yswiriant i’w cartrefi oherwydd eu bod yn byw mewn ardal o risg uchel.

Y brif neges a ddaeth yn amlwg o’r ymchwiliad oedd bod angen dybryd am wybodaeth gliriach, arweiniad a chymorth cyn, yn ystod, ac ar ôl y llifogydd.

Dywedodd, Mike German AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cynaliadwyedd: “Wrth gasglu tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad, cafodd straeon personol pobl sydd wedi dioddef yn sgil llifogydd gryn effaith ar Aelodau’r Pwyllgor hwn”.

“Roeddent wedi dioddef profiadau drychynllyd ac, mewn llawer o achosion, mae pobl yn dal i frwydro i ddod i delerau â’r effeithiau dinistriol y mae’r llifogydd wedi’u cael ar eu bywydau, a hynny ymhell ar ôl i’r llifogydd gilio.

“Mae’n hanfodol bod popeth posibl yn cael ei wneud i ddiogelu cartrefi a bywoliaethau pobl, ac os bydd y mesurau hynny yn methu, bod y cymorth a’r cyngor priodol ar gael yn ystod ac ar ôl y digwyddiad.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwybodaeth glir a chymorth ar gael, a byddai cael asiantaeth i fod yn gyfrifol am drin pob agwedd ar bob math o lifogydd, yn gam ymlaen o ran adennill hyder y cyhoedd.

“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn clywed yr hyn sydd gan fy nghyd-Aelodau yn y Cynulliad i ddweud yn ystod y drafodaeth hon”.

Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor ym mis Chwefror, gwnaed 28 argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Mae 21 o’r 28 argymhelliad hynny wedi eu derbyn naill ai yn gyfan gwbl, yn rhannol, neu mewn egwyddor gan Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai.