Y Cynulliad i fynd i’r afael â’r rhwystrau i gymryd rhan cyn y cynhelir etholiadau 2011

Cyhoeddwyd 12/01/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad i fynd i’r afael â’r rhwystrau i gymryd rhan cyn y cynhelir etholiadau 2011

12 Ionawr 2011

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad heddiw (12 Ionawr) i godi ymwybyddiaeth am y rhwystrau sy’n wynebu pobl anabl wrth iddynt geisio ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o ymgyrch ehangach y Cynulliad Cenedlaethol (yr ymgyrch Pleidleisiwch 2011) i annog pobl i ddefnyddio’u pleidlais dair gwaith eleni. Ar 3 Mawrth, gofynnir i bobl Cymru benderfynu ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol. Ar 5 Mai, byddant yn cael y cyfle i bleidleisio yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ac i benderfynu a ddylid defnyddio system wahanol o bleidleisio i ethol Aelodau Seneddol yn San Steffan.

Bydd y digwyddiad Ehangu Ymgysylltiad yn hyrwyddo pwysigrwydd y broses o gofrestru i bleidleisio ac yn ystyried y rhwystrau i bleidleisio, fel hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio. Carl Sargeant AC, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n noddi’r digwyddiad, a bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn annerch y gynulleidfa hefyd.

Yn ogystal, bydd cynrychiolwyr o Anabledd Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Scope Cymru yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb, fel rhan o banel.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad: “Mae 2011 yn flwyddyn bwysig iawn i bob un ohonom yng Nghymru. Cawn gyfle nid yn unig i ddewis pwy sy’n ein cynrychioli yn y Senedd, ond hefyd i ddewis a ddylai’r cynrychiolwyr etholedig hynny gael rhagor o bwerau i wneud cyfreithiau Cymreig.

“Mae cyfrannu at ddemocratiaeth yr un mor bwysig ag y bu erioed, ac rydym am sicrhau fod gan bawb yng Nghymru gyfle i ddweud eu dweud.

“Bydd y digwyddiad a gynhelir heddiw yn ystyried y rhwystrau o ran cymryd rhan ac yn ystyried ffyrdd o annog cynifer o bobl ag sy’n bosibl i gyfrannu at y broses o lunio dyfodol datganoli yn ein gwlad."

Dywedodd Carl Sargeant AC: “Rydym yn byw mewn cymdeithas lle mai’r bobl sy’n cael penderfynu pwy maent am iddynt fod mewn grym ac, yn anarferol, yn 2011 i benderfynu dros eu hunain ar faterion democrataidd.

“Mae pob pleidleisiwr yn hafal yn y broses honno – does gan bobl cyfoethog, pobl sydd wedi cael addysg na phobl abl bleidleisiau ychwanegol. Beth am sicrhau bod pawb yn gwybod sut i bleidleisio ac yn gallu pleidleisio. Mae môr o gyfleoedd gennym dros y flwyddyn a hanner nesaf; beth am wneud y mwyaf ohono.”