Y Cynulliad yn annog y cyhoedd i ymgysylltu â’r broses ddeddfu yng Nghymru

Cyhoeddwyd 01/07/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn annog y cyhoedd i ymgysylltu â’r broses ddeddfu yng Nghymru

1 Gorffennaf 2011

Mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i ymgysylltu ag Aelodau’r Cynulliad yn dilyn cyhoeddiad y bydd balot deddfwriaethol cyntaf y Cynulliad yn cael ei gynnal yn nhymor yr hydref. Y balot deddfwriaethol yw’r system a ddefnyddir i roi cyfle i Aelodau Cynulliad nad ydynt yn aelodau o’r Llywodraeth gynnig cyfreithiau i Gymru.

Bydd gan Aelodau sydd am gynnig deddfwriaeth gyfle dros yr haf i ymgynghori âg aelodau’r cyhoedd ac i ddrafftio cynigion polisi.

Yn y Trydydd Cynulliad, pasiwyd nifer o gyfreithiau na chawsant eu cynnig gan y Llywodraeth drwy ddefnyddio’r system hon, gan gynnwys y Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009, a gynigwyd gan Jenny Randerson AC; y Mesur Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2010, a gynigwyd gan Dai Lloyd AC; ac, yn ddiweddar, y Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011, a gynigwyd gan Ann Jones AC.


Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Hwn fydd y balot cyntaf i gael ei gynnal yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Bydd yn rhoi cyfle i Aelodau’r Cynulliad ddefnyddio pwerau deddfu ehangach y Cynulliad.

“Gall yr Aelodau ddechrau craffu ar gynigion deddfwriaethol ac ymgynghori â grwpiau perthnasol, er mwyn iddynt allu cyflwyno cynigion cadarn a fydd yn cael eu cynnwys yn y balot a’u dewis yn nhymor yr hydref.

“Mae’r cyfreithiau sy’n cael eu pasio yng Nghymru yn effeithio ar bobl ledled y wlad. Mae’n hanfodol, felly, bod y cyhoedd yn achub ar y cyfle hwn i ddylanwadu ar y broses ddeddfu drwy ymgysylltu â’u Haelodau Cynulliad, rhannu gwybodaeth am y materion sy’n bwysig iddynt a helpu i lunio deddfwriaeth i Gymru.

  • Er mwyn bod yn gymwys i gymryd rhan yn y balot, mae’n rhaid i Aelod ddarparu gwybodaeth benodol, gan gynnwys teitl arfaethedig y Bil a memorandwm esboniadol sy’n amlinellu amcanion polisi’r Bil a manylion am unrhyw gefnogaeth a gafwyd iddo.

  • Mae Rheolau Sefydlog y Cynulliad yn ei gwneud yn ofynnol ar y Llywydd i gynnal balot ar gyfer Biliau Aelod ‘o bryd i’w gilydd’.

  • Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses ddeddfu yma.