Y Cynulliad yn cael ei ddynodi’n un o’r 20 gweithle sydd fwyaf hoyw-gyfeillgar

Cyhoeddwyd 11/01/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn cael ei ddynodi’n un o’r 20 gweithle sydd fwyaf hoyw-gyfeillgar

11 Ionawr 2012

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi codi i’r 20fed safle ar y rhestr o’r 100 cyflogwr gorau i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ym Mhrydain, sef 22 safle yn uwch na’r llynedd.  

Mae’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, sy’n cael ei lunio gan Stonewall, yr elusen dros hawliau cyfartal, yn ystyried ystod o fesurau i ganfod pa mor hoyw-gyfeillgar yw sefydliadau.

Mae un o’r mesurau hynny yn ymwneud â’r rhwydwaith staff i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT).

Eleni, mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn y safle cyntaf ar gyfer ei rwydwaith i gyflogeion LHDT.

Dywedodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros faterion yn ymwneud â chydraddoldeb: “Mae’n rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol adlewyrchu gobeithion a dyheadau holl gymunedau Cymru os ydym am iddynt ymddiried ynom.”

“Mae cyrraedd safle mor uchel ym mynegai Stonewall yn dangos bod y sefydliad hwn o ddifrif ynghylch bod yn gorff cynhwysol sy’n gallu cyflawni ar gyfer pob cymuned.  

“Mae’r ffaith ein bod wedi gwella ein safle ar y mynegai, ac ein bod yn y safle cyntaf yng Nghymru o ran ein rhwydwaith i gefnogi pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, yn destun clod i staff a rheolwyr y Cynulliad.”

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi ymgymryd â’r gwaith a ganlyn i sicrhau ei fod yn weithle sy’n fwy hoyw-gyfeillgar:

  • Mae ein rhwydwaith i staff LHDT wedi dechrau rhaglen mentora

  • Rydym yn parhau i gydweithio â phartneriaid lleol i ddathlu Mis Hanes LHDT

  • Rydym yn parhau i fod yn bresennol ym Mardi Gras Caerdydd – yn 2011, siaradodd y Llywydd ar y prif lwyfan

  • Rydym wedi dechrau anfon bwletin cydraddoldeb misol sy’n cynnwys gwybodaeth am newyddion, cyhoeddiadau, cynadleddau ac yn y blaen sy’n berthnasol i bobl LHDT

  • Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb i bobl LHDT yn fewnol drwy ein polisïau staff cynhwysol, a thrwy hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth

  • Mae gennym uwch swyddog sy’n hyrwyddwr i bobl LHDT, a nifer o uwch swyddogion gwahanrywiol sy’n gynghreiriad o ran hyrwyddo cydraddoldeb i bobl LHDT yn fewnol ac yn allanol.

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: “Mewn cyfnod o doriadau a chynni ariannol mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi parhau i gydnabod nad rhywbeth ychwanegol yw cydraddoldeb ond rhywbeth a ddylai fod wrth galon darparu gwasanaethau yn effeithiol, a bod staff yn perfformio’n well os cânt fod yn nhw eu hunain.”

“Cawsom mwy o geisiadau o Gymru eleni nag erioed o’r blaen, ac roedd y gystadleuaeth yr un mor frwd ag erioed.

“Drwy barhau i arwain, mae’r Cynulliad wedi llwyddo i godi 22 safle. Mae hynny’n dystiolaeth o ymroddiad ac ymrwymiad nifer o aelodau o staff allweddol.

“Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn awr yn un o’r 20 cyflogwr gorau yn y DU – llongyfarchiadau!”