Y Cynulliad yn cael y ddeiseb fwyaf erioed

Cyhoeddwyd 02/12/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn cael y ddeiseb fwyaf erioed

1/12/2009

Heddiw (1 Rhagfyr) mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael y ddeiseb fwyaf a gafodd erioed.

Mae dros 16 mil o bobl wedi llofnodi’r ddeiseb yn gwrthwynebu Strategaeth Is-ranbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru /Gorllewin Sir Gaer sy’n hyrwyddo rhagor o gyd-weithredu trawsffiniol er mwyn hybu datblygiad.

Ond disgrifia’r deisebwyr y cynllun fel un niweidiol a thanseiliol, nad yw wedi’i gynllunio’n glir.         

Mae dirprwyaeth o bymtheg o bobl o Gyngor Pobl Gogledd Cymru wedi cyflwyno’r ddeiseb heddiw i Val Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar y grisiau yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Mae hon yn enghraifft dda o ddemocratiaeth ar waith. Mae’n amlwg fod y bobl sydd wedi llofnodi’r ddeiseb hon yn teimlo’n angerddol bod lle i weithredu yn erbyn y Strategaeth,” meddai Mrs Lloyd.

Dengys ymgyrchoedd fel hyn sut y gall y cyhoedd gael mynediad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru a lleisio eu barn. Rwy’n falch o ddweud mai ni yw un o’r ychydig gyrff gwleidyddol yn y byd sydd â phwyllgor penodol i archwilio deisebau.”

Byddaf fi a’m cyd-weithwyr ar y Pwyllgor yn gwrando ar bryderon y bobl ac yn ymchwilio’n fwy manwl i’r mater.”