Y Cynulliad yn ceisio barn y cyhoedd ar ei Gynllun Cydraddoldebau Sengl a Chynllun Gweithredu
Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Gynllun Cydraddoldebau Sengl a Chynllun Gweithredu Drafft er mwyn cael barn sefydliadau a’r cyhoedd yng Nghymru.
Mae’r cynllun sy’n cynnwys oed; anabledd; rhyw/hunaniaeth o ran rhywedd; hil/ethnigrwydd; crefydd/cred a chyfeiriadedd rhywiol, wedi’i gynllunio i hyrwyddo prif-ffrydio cydraddoldebau ac amrywiaeth drwy’r sefydliad, fel cyflogwr a darparwr gwasanaeth ac i gefnogi staff a defnyddwyr gwasanaethau sydd ag anghenion gwahanol ac anghenion sydd weithiau’n gorgyffwrdd. Mae’r cynllun gweithredu’n nodi sut mae’r Cynulliad yn bwriadu cyflawni amcanion cydraddoldebau, rhoi sylw i anghydraddoldebau a mynd i’r afael ag anfanteision.
Mae’r cyfnod ymgynghori ar agor tan fis Medi 2008 a chyhoeddir Cynllun a Chynllun Gweithredu terfynol ym mis Hydref 2008. Bydd yn cynnwys cyfnod o dair blynedd, ac wedi hynny caiff ei adolygu a’i ddiweddaru.
Mae crynodeb o’r ddogfen ymgynghori ar gael ar ffurfiau amgen ac mewn ieithoedd cymunedol os gwneir cais. Mae swyddogion y Cynulliad hefyd ar gael i ymweld â sefydliadau i drafod y cynllun ac i gasglu ymateb.
Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr y Cynulliad: “Mae’r cynllun cydraddoldebau sengl ar hyn o bryd yn ei gam datblygu, a hoffem gynnwys cymaint o bobl â phosibl er mwyn sicrhau bod eu holl anghenion gwahanol yn cael eu hystyried wrth i ni bennu ein hamcanion cydraddoldebau. Mae angen i ni wybod am yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda a lle y gallwn wella, felly rwy’n annog unrhyw un sydd â barn ar y testun i gyfrannu i’r ymgynghoriad.”
Darllen y ddogfen ymgynghori
I drefnu cyfarfod gyda swyddog o’r Cynulliad neu i gyflwyno cwestiynau neu sylwadau anfonwch e-bost at equalities.team@wales.gsi.gov.uk.