Y Cynulliad yn cymeradwyo Polisi Urddas a Pharch newydd

Cyhoeddwyd 17/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Heddiw, pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gymeradwyo Polisi Urddas a Pharch newydd sy’n dangos y safonau ymddygiad uchel y gall unrhyw un sydd mewn cysylltiad ag Aelodau’r Cynulliad, ac unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r Cynulliad, eu disgwyl ac y dylent eu disgwyl.

Trafododd y Cynulliad y polisi a’r canllawiau cysylltiedig fel rhan o waith parhaus y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i greu diwylliant sy’n tynnu sylw at ymddygiad amhriodol o bob math. Mae’n amlinellu’r camau i sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel a chyfforddus yn eu hymgysylltiad â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, eu bod yn cael eu parchu, a bod yr opsiynau ar gyfer mynegi pryderon neu wneud cwynion yn glir.

Drafftiwyd y polisi gyda chyfraniadau o bob rhan o Gomisiwn y Cynulliad, Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad a’r Comisiynydd Safonau, ac fe’i trafodwyd hefyd gan bobl y tu allan i’r Cynulliad er mwyn ei ddilysu’n allanol.

Wrth arwain y ddadl, dywedodd Jane Bryant AC, Cadeirydd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad: “Rwy’n falch iawn bod yr Aelodau wedi cymeradwyo’r safonau uchel sydd yn y polisi newydd. Drwy wneud hynny, maent wedi cymryd cyfrifoldeb dros fynd i’r afael ag ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad. Mae’r polisi’n gwella’r cymorth sydd ar gael i’r rheini sydd eisiau mynegi pryderon neu wneud cwynion ynghylch ymddygiad. Mae hyn yn gam cadarnhaol yn y cyfeiriad iawn, ond mae mwy i’w wneud. Y cam nesaf fydd cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Safonau ynghylch gwella gwaith y Cynulliad mewn perthynas ag Urddas a Pharch, a byddwn yn ceisio gwneud hynny cyn toriad yr haf.”

Dywedodd y Llywydd, Elin Jones AC:

"Heddiw, rydym wedi cymryd camau cadarnhaol i danlinellu ein hymrwymiad i greu diwylliant a gweithle sy'n rhydd o unrhyw fath o aflonyddu ac sy'n ennyn ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd. Mae adeiladu diwylliant newydd yn golygu mwy nag adolygu polisïau a gweithdrefnau cwyno. Mae gennym fwy o waith i'w wneud ac mae'r cyfrifoldeb am hynny'n disgyn ar bob un ohonom – Aelodau Cynulliad, Comisiynwyr, y Comisiynydd Safonau a'n pleidiau gwleidyddol. Nid oes lle i ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad - rhaid inni sicrhau na fydd unrhyw fath o aflonyddu yn cael ei ysgubo o'r golwg a bod cwynion o bob math yn cael eu trin gyda pharch ac yn deg. Rwy’n hyderus bod hwn yn gam i'r cyfeiriad iawn ac yn dangos ein hymroddiad i flaenoriaethu urddas a pharch nawr ac yn y dyfodol. "