Y Cynulliad yn Lansio Cynllun Cysgodi AC fel rhan o Ymgyrch y Bleidlais Ddu

Cyhoeddwyd 08/10/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn Lansio Cynllun Cysgodi AC fel rhan o Ymgyrch y Bleidlais Ddu

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac Ymgyrch y Bleidlais Ddu yn lansio’u Cynllun Cysgodi Aelod Cynulliad yn y Senedd ar 10 Hydref am 5.30pm.

Bydd y cynllun, sy’n cael ei redeg ar y cyd ag Ymgyrch y Bleidlais ddu yn golygu y bydd naw o bobl dduon neu bobl o leiafrifoedd ethnig o bob rhan o Gymru’n cysgodi Aelodau Cynulliad o bob un o’r pedair prif blaid.  Nod y prosiect yw annog pobl o’r cymunedau hynny i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd a chynyddu nifer yr ACau o gymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig.  Mae’r cynllun hwn yn dilyn cyfres o gynlluniau cysgodi llwyddiannus iawn ym maes Aelodau Seneddol, Ynadon a Chynghorwyr.  

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan, sy’n dod o amrywiaeth eang o gymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig, yn cysgodi’r Aelodau Cynulliad am leiafswm o wyth niwrnod dros gyfnod o chwe mis er mwyn cael profiad o fywyd fel Aelod Cynulliad ac i helpu Aelodau’r Cynulliad ddeall anghenion eu hetholwyr duon neu rai o leiafrifoedd ethnig.  Byddant hefyd yn dod yn Genhadon Cymunedol, yn hybu pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth yn eu hardaloedd.

Bydd Llywydd y Cynulliad yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn siarad yn y lansiad, ynghyd â Simon Woolley, Cyfarwyddwr Ymgyrch y Bleidlais Ddu,  Ann Jones, AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal a Mohammad Asghar AC, yr Aelod Cynulliad cyntaf o leiafrif ethnig.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: ‘Rwy’n falch iawn o gael lansio’r cynllun.  Tra gall y Cynulliad ymffrostio mai ef oedd y sefydliad seneddol cyntaf yn y byd i gael cydbwysedd 50/50 rhwng y rhywiau yn ystod yr ail Gynulliad, ac yna mwyafrif o ferched, nid oedd y cymunedau duon a’r lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynrychioli o gwbl tan eleni pan etholwyd Mohammad Ashgar fel yr AC cyntaf o’r gymuned honno.   Fodd bynnag nid yw ei bresenoldeb ef ei hun yn ddigon a chroesewir unrhyw  beth y gellir ei wneud i wneud i wella’r sefyllfa.’