Y Cynulliad yn torri tir newydd deirgwaith wrth i Weinidog gefnogi cynigion a allai sicrhau rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio diogel ledled Cymru.

Cyhoeddwyd 19/11/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn torri tir newydd deirgwaith wrth i Weinidog gefnogi cynigion a allai sicrhau rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio diogel ledled Cymru

19 November 2009

Mae Ieuan Wyn Jones AC, y Gweinidog dros drafnidiaeth, wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi deddfwriaeth arfaethedig Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch Priffyrdd a Thrafnidiaeth.

Gallai’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig olygu y gosodir dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau y datblygir a chefnogir rhwydwaith o lwybrau i gerddwyr a beicwyr ledled Cymru.

Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu: “Rydym yn torri tir newydd mewn tair ffordd wahanol o ran creu cyfreithiau newydd i Gymru.

“Nid yn unig dyma’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol cyntaf i gael ei gynnig gan Bwyllgor Cynulliad ond hwn yw’r un cyntaf i ddeillio’n uniongyrchol o broses ddeisebau’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Hefyd, daeth y ddeiseb yn uniongyrchol o gymdeithas sifil. Cafodd ei gynnig gan Sustrans, yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy, ac fe’i cefnogwyd gan nifer o sefydliadau gwirfoddol.

“Rydym yn hapus iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein Pwyllgor gan fod hon yn enghraifft berffaith o sut y mae’r rhai sy’n gwneud deddfwriaeth yng Nghymru yn gwrando ar anghenion pobl Cymru. Mae’n enghraifft o ddemocratiaeth ar waith.”

Dywedodd Lee Waters, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Sustrans Cymru: 'Ymatebodd Sustrans i’r galwad gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnig syniadau am ddeddfwriaeth newydd. Cafodd ein cynnig gefnogaeth eang gan gymdeithas sifil – gan BT, y Post Brenhinol, y Comisiynydd Plant, Cymdeithas Feddygol Prydain ac Age Concern.  

'Pan gaiff ei roi ar waith, bydd yn annog Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i wneud mwy i greu rhwydwaith o lwybrau diogel i gerddwyr a beicwyr ledled Cymru. Gobeithiaf na welwn mwyach ddarnau o lwybrau nad ydynt yn rhan o rwydwaith ac sydd mewn cyflwr gwael.

'Mae’r cyhoeddiad a gafwyd heddiw yn gam pwysig tuag at greu Cymru sy’n fwy iach ac yn fwy cynaliadwy.'

Gwybodaeth ychwanegol

  1. Bydd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Priffyrdd a Thrafnidiaeth) 2009 yn rhoi rhagor o gymhwysedd deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym maes Priffyrdd a Thrafnidiaeth.

  2. Cytunodd y Gweinidog ar y Gorchymyn yn amodol ar ddarpariaeth yn nodi na fyddai trafodaethau yn dechrau tan fis Mawrth 2010, ac erbyn hynny bydd y rhaglen gyfredol o orchmynion arfaethedig Llywodraeth Cymru fwy neu lai wedi dod i ben eu taith drwy Whitehall.

  3. Cyflwynwyd y ddeiseb gan Sustrans a fe’i cefnogwyd gan y sefydliadau a ganlyn: BT Cymru, Y Post Brenhinol, BMA Cymru, Age Concern Cymru, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru, Chwarae Cymru, WWF Cymru, Groundwork Cymru, Cadwch Gymru'n Daclus, Cyngor y Parciau Cenedlaethol, Cymdeithas Mynyddoedd Cambria, Cyfeillion y Ddaear Cymru.