Y Cynulliad yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Cyhoeddwyd 06/08/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Bydd cyfle i bobl sy’n ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug yr wythnos hon (4-11 Awst) ddysgu rhagor am Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arddangosfa’r Cynulliad. Ymhlith y gweithgareddau a fydd ar y stondin i helpu ymwelwyr iau i ddysgu am y Cynulliad bydd croeseiriau, jig-sos, chwileiriau a gemau bwrdd, a gall y teulu cyfan ymuno mewn gêm o Bingo Aelodau’r Cynulliad bob dydd i’w helpu i adnabod Aelodau newydd y Cynulliad ac Aelodau mwy profiadol. Ar ddydd Llun a dydd Mawrth bydd gweithdy celf i blant a fydd yn eu dysgu am gyfrifoldebau a phwerau’r Cynulliad ac yn dangos beth y mae’r Cynulliad yn ei olygu iddyn nhw. Yno i’w cynorthwyo ar y stondin drwy gydol y dydd fydd y cymeriadau Dil, Dot a Ceri’r Corryn. Gall ymwelwyr ddysgu am weithio mewn amgylchedd dwyieithog, a gall darpar gyfieithwyr roi cynnig ar gyfieithu ar y pryd yn ystod gweithdai cyfieithu ddydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau.   Am 2.00 pm ddydd Iau 9 Awst bydd cyfle hefyd i ddysgwyr Cymraeg holi Aelodau’r Cynulliad sydd wedi dysgu Cymraeg, neu sydd wrthi’n dysgu’r iaith, mewn sesiwn Hawl i Holi. Caiff y cyhoedd gyflwyno cwestiynau yn ystod yr wythnos, neu ofyn cwestiwn ar y diwrnod.