Y Dirprwy Lywydd yn cymryd rhan yn ‘y Bore Coffi Mwyaf yn y Byd’.
25 Medi 2009
Heddiw (Medi 25) yng Nghasnewydd, bydd Rosemary Butler, Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd rhan yn ‘y Bore Coffi Mwyaf yn y Byd’.
Mae’r bore coffi’n un o filoedd sy’n digwydd ledled Cymru a’r DU i godi arian at Gymorth Canser Macmillan.
Mae’r Dirprwy Lywydd yn mynychu’r un a gynhelir yn Ysgol Gynradd High Cross yng ngorllewin Casnewydd – sy’n cymryd rhan yn rheolaidd yn y digwyddiad codi arian hwn.
“Rwy’n falch o gael bod yma yn Ysgol High Cross heddiw i gymryd rhan yn y Bore Coffi Mwyaf yn y Byd – ffordd syml ond llawn hwyl o godi arian at Gymorth Canser Macmillan,” meddai Rosemary Butler AC, y Dirprwy Lywydd.
“Mae gan 108,000 o bobl yng Nghymru ganser ac mae cynnal bore coffi’n ffordd hawdd o sicrhau bod gan Macmillan yr arian i barhau â’i waith pwysig.
“Rwy’n edrych ymlaen i gael paned (a chodi arian!) â disgyblion yr ysgol, eu teuluoedd a chyfeillion yr ysgol.”