Y Frenhines yn mynegi ei hyder yng ngallu’r Cynulliad, gyda’i bwerau deddfu ehangach, i gyflawni dros Gymru

Cyhoeddwyd 07/06/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Frenhines yn mynegi ei hyder yng ngallu’r Cynulliad, gyda’i bwerau deddfu ehangach, i gyflawni dros Gymru

7 Mehefin2011

Ymunodd Ei Mawrhydi Y Frenhines ag Aelodau Cynulliad a chynrychiolwyr o gymunedau ledled Cymru yn y Senedd (7 Mehefin) i nodi agoriad swyddogol y Pedwerydd Cynulliad.

Yn ystod ei haraith i Aelodau, dywedodd y Frenhines “fod y Pedwerydd Cynulliad yn ddechrau ar gyfnod arwyddocaol yn natblygiad datganoli yng Nghymru”.

“Mae’r Cynulliad, wrth i broses ddatganoli esblygu, wedi cael enw da, a hynny’n gwbl haeddiannol, am ei allu a’i ymroddiad”, ychwanegodd.

“Y mae gennych chi’r awdurdod bellach i wneud deddfau’n ymwneud a phob mater o fewn yr ugain o feysydd sydd wedi’u datganoli i’r Cynulliad ac, am y tro cyntaf, fe fyddwch chi’n gwneud Deddfau’r Cynulliad.

“Bydd pobl Cymru yn cadw llygad barcud ar berfformiad y Cynulliad wrth iddo fynd i’r afael a’r cyfrifoldebau newydd hyn.

“Ond ar sail yr hyn a gyflawnwyd eisoes gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod ei ddeuddeng mlynedd cyntaf, a chydag ymrwymiad pob Aelod, gallwn feddu ar hyder wrth feddwl am y dyfodol.”

Mae Llywydd newydd y Cynulliad, Rosemary Butler AC, eisoes wedi dweud taw un o’r amcanion ar gyfer y pum mlynedd nesaf yw gwella’r cyswllt rhwng y Cynulliad a chymunedau ledled Cymru.

Ategodd yr ymrwymiad hwnnw yn ei haraith i’r Frenhines ac i Aelodau, a gwnaeth ymrwymiad pellach ar ran y Cynulliad i gyflawni pob her a ddaw yn sgil meddu ar bwerau deddfu ehangach.

“Ar ran fy nghyd-Aelodau yn y Cynulliad, hoffwn estyn croeso cynnes i’n gwesteion o bob rhan o Gymru a thu hwnt,” mynegodd.

“Mae’n bleser o’r mwyaf gennyf, yn un o’m cyfrifoldebau cyntaf fel Llywydd, estyn croeso i’n gwesteion Brenhinol.

“Eich Mawrhydi, yr ydym yn hynod falch eich bod chi wedi dychwelyd i’r Senedd ar ddechrau’r Pedwerydd Cynulliad, wrth inni gamu i gyfnod arwyddocaol arall yn hanes datganoli. Mae pobl Cymru yn disgwyl llawer gan y Cynulliad hwn.

“Dathlu a wnawn heddiw, ond rhydd y diwrnod gyfle inni fyfyrio ar y ffordd sydd o’n blaenau wrth inni geisio ymateb i’r disgwyliadau hynny a’u bodloni.”

I wylio’r digwyddiad a’r areithiau ewch i Senedd.

Agoriad swyddogol y Cynulliad newydd - ffotograffau