Mewn ymateb i’r adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y Gronfa Gofal Integredig, mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi rhyddhau’r datganiad a ganlyn:
Dywedodd Mr Ramsay:
“Mae’r Gronfa Gofal Integredig bellach yn ei chweched flwyddyn. Mae’n galonogol gweld bod y gronfa wedi helpu i ddod â sefydliadau at ei gilydd i gynllunio gwasanaethau a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sydd mewn angen, er ei bod yn ymddangos bod rhai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wedi croesawu rhagor o weithio rhanbarthol nag eraill.
“Yn siomedig, mae rhai o’r materion a nodir yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ynghylch y ffordd y rheolwyd y gronfa yn arwydd o bryderon y mae’r Pwyllgor wedi’u hystyried yn y gorffennol yng nghyd-destun y Rhaglen Cefnogi Pobl.
“Nodwn hefyd nad oes llawer o dystiolaeth eto bod cyrff cyhoeddus wedi rhannu arferion gorau â mentrau llwyddiannus yn hytrach na dibynnu ar y gronfa i’w cefnogi.
“Rydym yn cefnogi galwad yr Archwilydd Cyffredinol i Lywodraeth Cymru wneud pethau’n iawn o’r cychwyn cyntaf pan fydd yn cynllunio cronfeydd o’r fath yn y dyfodol ac i sicrhau y gall adrodd stori glir a chydlynol am effaith ei buddsoddiad.
“Bydd y Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ac ymateb Llywodraeth Cymru maes o law.”
Mae’r adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.