Y Llywydd ar restr fer am wobr o fri
6 Chwefror 2013
Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar restr fer am wobr fawreddog.
Mae’n ymuno â dau wleidydd benywaidd blaenllaw arall o’r DU ar y rhestr fer ar gyfer Senedd Ddatganoledig neu Aelod Cynulliad y Flwyddyn, yng Ngwobrau Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus Dods Parliamentary Companion
.
Dewiswyd y Llywydd ar ôl iddi gael ei hethol yn Llywydd benywaidd cyntaf erioed mewn sefydliad datganoledig yn y DU, ac yn benodol, am ei gwaith yn rhoi’r mater ynghylch y rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu wrth fynd i mewn i fywyd cyhoeddus ar frig yr agenda gwleidyddol.
Mae’n ymuno â Caroline Pigeon, Aelod Cynulliad Llundain a Johann Lamont, Aelod o Senedd yr Alban, ar y rhestr fer.
Dywedodd y Llywydd, “Mae’n anrhydedd mawr i mi gael fy ystyried yn yr un cwmni â menywod mor flaenllaw ledled y DU.
“Un o’m prif flaenoriaethau dros y 18 mis ers cael fy ethol yn Llywydd yw mynd i’r afael â’r mater ynghylch y rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu wrth ymwneud â bywyd cyhoeddus yng Nghymru.
“Rydym wedi cynnal cyfres o seminarau ledled Cymru i ysbrydoli menywod o bob cefndir i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.
“Arweiniodd y seminarau hynny at gynhadledd genedlaethol lle cefais fandad i ysgrifennu at arweinwyr y pleidiau yng Nghymru ynghylch y gostyngiad yn nifer yr Aelodau Cynulliad benywaidd.
“Felly, pe byddwn yn ennill y wobr anrhydeddus hon, bydd hefyd yn gydnabyddiaeth i’r holl fenywod yr wyf wedi cyfarfod â hwy ledled Cymru yn y 18 mis diwethaf sydd wedi creu cymaint o argraff arnaf, ac wrth gwrs mae’n gydnabyddiaeth i staff y Cynulliad sydd wedi fy nghynorthwyo yn fy rôl a thrwy gydol fy ngyrfa.”
Ers iddi gael ei hethol i’r swydd ym mis Mai 2011, mae Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, wedi cyflwyno nifer o newidiadau i fusnes y Cynulliad.
Yr ysgogiad y tu ôl i’r newidiadau hyn fu penderfyniad y Llywydd i sicrhau bod gwaith craffu yn fwy effeithiol ac i greu rhagor o gyfleoedd i Aelodau nodi materion sy’n berthnasol i’r etholwyr.
Mae’r newidiadau hynny wedi cynnwys:
rhoi mwy o gyfle i arweinyddion y gwrthbleidiau holi’r Prif Weinidog;
ailstrwythuro’r system bwyllgorau i’w gwneud yn fwy ymatebol i’r materion a ddaw gerbron y Cynulliad. Erbyn hyn, mae pum Pwyllgor mwy o faint sydd â dwy rôl, sef edrych ar bolisi a deddfwriaeth;
caniatáu rhagor o amser ar gyfer Dadleuon Aelodau Unigol; a
rhoi mwy o gyfle i Aelodau Cynulliad y meinciau cefn gyflwyno deddfwriaeth.
Yn ystod ei chyfnod yn y swydd, enwyd y Cynulliad yn un o’r 10 lle gorau sy’n ystyriol o deuluoedd gan sefydliad Top Employers for Working Families, yn un o’r gweithleoedd mwyaf ystyriol o bobl hoyw yn y DU gan Stonewall, a chafodd ei achredu yn gyflogwr Cyflog Byw ar ôl cyflwyno isafswm o £7.45 yr awr i unrhyw un a gyflogir ar ystâd y Cynulliad.
Dywedodd Claire Clancy, Clerc y Cynulliad Cenedlaethol, “Rwyf wrth fy modd bod y Llywydd wedi cael y gydnabyddiaeth hon.
“Ers iddi gael ei hethol, mae hi wedi gweithio’n galed i dynnu sylw at y rôl y gall, ac y dylai, menywod ei chwarae ym mywyd cyhoeddus yng Nghymru.
“Mae ei phenderfyniad i leihau’r rhwystrau i fenywod fynd i mewn i fywyd cyhoeddus yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Rwy’n falch o allu gweithio gyda’r Llywydd ar faterion a all wir helpu i hyrwyddo democratiaeth yng Nghymru.”