Y Llywydd Rosemary Butler AC yn Mardi Gras Caerdydd, 2011

Cyhoeddwyd 08/09/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd Rosemary Butler AC yn Mardi Gras Caerdydd, 2011

Ar 3 Medi, bu Rosemary Butler AC, y Llywydd, yng ngwyl Mardi Gras Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol Caerdydd.

Bu ar daith o gwmpas y safle a bu’n sgwrsio â stondinwyr a rhai oedd wedi ymweld â’r wyl. Daeth ei hymweliad i ben gydag anerchiad o’r prif lwyfan, pan fu’n esbonio mai cydraddoldeb yw un o egwyddorion sylfaenol y Cynulliad. Dywedodd wrth y dorf bod modd iddynt ymweld â Bws y Cynulliad yn y digwyddiad i ddylanwadu ar ddatblygiad Cynllun Cydraddoldeb newydd y Cynulliad, ac i ddod i wybod rhagor am sut mae’r Cynulliad yn cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, yn deddfu ar gyfer Cymru ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.