Y Llywydd yn croesawu ymrwymiad Araith y Frenhines i gyflwyno mwy o bwerau i Gymru

Cyhoeddwyd 27/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2015

​"Rwy'n croesawu'r ymrwymiad a wnaed yn Araith y Frenhines heddiw i gyflwyno bil Cymru sy'n anrhydeddu yn llawn yr ymrwymiadau a wnaed yn y broses Dydd Gŵyl Dewi.

"Mae'n hanfodol bod llais y Cynulliad yn cael ei glywed yn glir yn y trafodaethau a fydd yn cael eu cynnal dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

"Byddaf yn cwrdd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru cyn bo hir lle y byddaf yn gofyn am sicrwydd y byddwn, wrth symud yn gyflym, yn sicrhau digon o gyfle i graffu ar unrhyw gynigion newydd ac ystyried eu heffaith ar Gymru.

"Mae cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi yn arwydd o'r newid yn y cydbwysedd grym rwyf wedi galw amdano rhwng San Steffan a'r Cynulliad, ac a fydd yn ein galluogi, o'r diwedd, i wneud penderfyniadau ynghylch ein materion ein hunain.  Mae'n rhaid inni fod yn sicr na fydd unrhyw fodel newydd o gadw pwerau yn lleihau ein gallu i ddeddfu mewn unrhyw ffordd a'i fod yn cynnig setliad inni sy'n gadael i ni ddeddfu gydag eglurder a chydlyniad er lles Cymru."