Y Llywydd yn croesawu ymwelwyr i’r Senedd ar Ddydd Gwyl Dewi

Cyhoeddwyd 01/03/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd yn croesawu ymwelwyr i’r Senedd ar Ddydd Gwyl Dewi

A hithau’n Ddydd Gwyl Dewi, bydd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol heddiw’n dweud wrth ymwelwyr â’r Senedd ei fod am weld y Cynulliad yn dod yn gorff deddfu sy’n deilwng o’i gartref nodedig.

Agorwyd y Senedd yn swyddogol ar 1 Mawrth 2006 gan y Frenhines, ac eleni cynhelir amryw o weithgareddau yn yr adeilad i ddathlu dydd ein nawddsant. Bydd y Senedd ar agor rhwng 10.30am a 5.00pm gyda digon o weithgareddau i ddiddanu’r teulu i gyd, gan gynnwys lliwio lluniau, peintio wynebau, arddangosfeydd coginio, sesiynau blas ar y Gymraeg a gweithdai dawnsio gwerin. Bydd adloniant gan Gôr CF1, Band Dur Ysgol Fitzalan, Cwmni Dawns Werin Caerdydd, y band drymio Sicaidd, Cher Punjab, y band pibau o Lydaw, Bagad Penhars, a haka Cymreig yn cael ei berfformio gan blant ysgol o Gymru.

Am y tro cyntaf, bydd Gorymdaith Genedlaethol Gwyl Dewi yn gorffen yn y Senedd, gyda’r Llywydd yno i groesawu’r gorymdeithwyr o flaen yr adeilad. Bydd y Llywydd hefyd yn darllen neges arbennig gan Esgob Tyddewi.

Disgwylir i’r Llywydd ddweud: “Rwy’n falch o groesawu cynifer o bobl i ddathlu Dydd Gwyl Dewi yn y Senedd. Mae’r Senedd hefyd yn dathlu carreg filltir. Pan agorwyd yr adeilad gan Ei Mawrhydi ddwy flynedd yn ôl, roeddwn i’n gobeithio y byddai’n dod yn ganolfan ddiwylliannol yn ogystal â gwleidyddol yn y Bae. Mae’n briodol iawn felly bod cynifer o weithgareddau’n cael eu cynnal yn yr adeilad i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. Mae’r grwpiau amrywiol sy’n ein diddanu heddiw yn adlewyrchiad gwirioneddol o wahanol draddodiadau diwylliannol ac ethnig ein prifddinas. Hoffwn ddiolch i Bagad Penhars, sydd wedi teithio o Lydaw i gymryd rhan heddiw, ac i Earthfall am drefnu’r haka Cymreig – rwy’n edrych ymlaen yn arw at ei weld.

“Mae’n bleser arbennig croesawu gorymdaith Dydd Gwyl Dewi i gartref y Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf. Mae’r orymdaith wedi bod yn mynd o nerth i nerth ers iddi gael ei sefydlu, ac rwyf wrth fy modd ei bod yn gorffen yn y Senedd eleni. Hoffwn ddiolch hefyd i Gyngor Caerdydd am gydweithio gyda’r Cynulliad i drefnu’r digwyddiad.

“Ers i’r adeilad nodedig bendigedig hwn agor am y tro cyntaf, rwyf wedi gobeithio y byddem yn gallu creu sefydliad seneddol sy’n deilwng o gartref mor ysblennydd. Am y tro cyntaf, mae gennym bwerau i greu deddfau i Gymru, ac mae Llywodraeth Cymru ac Aelodau’r meinciau cefn yn y Cynulliad wedi dangos parodrwydd i ddefnyddio’r pwerau newydd hyn. Fodd bynnag, os ydym am symud yn ein blaenau i gam nesaf datganoli, rhaid i ni wella wrth geisio sicrhau bod y system yn gweithio. Rhaid i ni greu deddfau sy’n adlewyrchu anghenion pobl Cymru, a rhaid i ni wella’n sylweddol wrth roi gwybod i ddinasyddion Cymru am ein gwaith, a’u cynnwys yn y broses.

“Mae gwneud y Senedd yn rhan o’r dathliadau ar ein diwrnod cenedlaethol yn rhan bwysig o hyn. Mae’n bleser mawr eich croesawu chi i gyd i’r Senedd. Gobeithio y cewch chi i gyd ddiwrnod i’w gofio, ond cofiwch hefyd roi gwybod i ni eich barn am yr adeilad, am y Cynulliad, ac am sut y gallwn ddefnyddio’n pwerau yn y ffordd orau i wasanaethu Cymru.”