Y Llywydd yn cyhoeddi enillwyr y tocynnau am ddim i gyngerdd Karl Jenkins
5 Tachwedd 2009
Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, wedi cyhoeddi enillwyr o docynnau am ddim i gyngerdd arbennig Karl Jenkins ar Dachwedd 14 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae’r cyngerdd wedi’i drefnu er mwyn dathlu pen-blwydd y cyfansoddwr yn 65, pen-blwydd Canolfan Mileniwm Cymru yn 5 oed a phen-blwydd datganoli yn 10 oed.
Bydd yr enillwyr yn cael eu tywys ar daith arbennig o amgylch y Senedd gan y Llywydd, cyn mynd draw i’r Ganolfan i wylio’r cyfansoddwr byd-enwog wrth ei waith.
Bydd y cyngerdd yn cynnwys rhai o weithiau mwyaf poblogaidd y cyfansoddwr, gan gynnwys darnau o Songs of Sanctuary, Requiem, Stabat Mater, The Armed Man a’r record Adiemus, sydd wedi gwerthu dros filiwn o gopïau.
">Mae Karl Jenkins hefyd wedi cyfansoddi darn pwrpasol i nodi dengmlwyddiant datganoli, a bydd hwn yn cael ei berfformio ar y noson.
Nid yw datganoli’n golygu’r Cynulliad Cenedlaethol a’i drigain o aelodau yn unig,” meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Llywydd.
Mae’n golygu annog mwy o bobl i gyfrannu at y broses wleidyddol ac annog cynifer o bobl Cymru â phosibl i leisio barn am ddyfodol y wlad.
Felly, mae’n briodol bod pobl o bob rhan o Gymru yn ymuno â ni wrth i nodi deng mlynedd o ddatganoli gyda dathliad cerddorol.”
Bydd Mr Jenkins yn rhannu’r llwyfan am y noson gyda’r arweinydd Gareth Jones, a bydd rhestr nodedig o unawdwyr Cymru yn ymuno â hwy, gan gynnwys y soprano ryngwladol Rebecca Evans, y delynores Catrin Finch a’r cantorion Elin Fflur a Rhydian Roberts.
Bydd y corau Côrdydd, Côr Caerdydd, Aelwyd y Waun Ddyfal a Cantata hefyd yn ymddangos ar lwyfan ysblennydd Donald Gordon, ar y cyd â Sinfonia Cymru.