Y Llywydd yn ymweld â’r Sioe Frenhinol i godi ymwybyddiaeth ynghylch pwerau deddfu newydd y Cynulliad
17 Gorffennaf 2011Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ymweld â’r Sioe Frenhinol ddydd Llun 18 a dydd Mercher 20 Gorffennaf.
Mae Mrs Butler yn bwriadu cyfarfod â sefydliadau ac unigolion sy’n byw ac yn gweithio yng nghymunedau gwledig Cymru i siarad am yr hyn y maent yn dymuno ei weld gan y Cynulliad newydd, sydd bellach â rhagor o bwerau deddfu.
Yn benodol, bydd yn amlygu strwythur newydd pwyllgorau’r Cynulliad, y bwriedir iddo ei gwneud yn haws i bobl ymgysylltu â’r Cynulliad a dylanwadu ar ei ddeddfau.
Bydd hefyd yn trafod sut y gall pobl ddylanwadu’n uniongyrchol ar y broses ddeddfu drwy gyflwyno deiseb i bwyllgor deisebau’r Cynulliad.
Dywedodd Mrs Butler: “Dyna pam fy mod eisiau mynd allan i gwrdd â chymaint o bobl â phosibl yn ystod fy nghyfnod yn y swydd, er mwyn rhannu’r neges fod y Cynulliad Cenedlaethol yn dymuno cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn gwella bywydau pawb yng Nghymru.”
“Mae ymweld â’r Sioe Frenhinol yn golygu y gallaf gyfarfod â phobl sy’n cynrychioli agweddau gwahanol ar fywyd yng nghefn gwlad Cymru ac ar amaethyddiaeth, a thrafod sut maent yn credu y dylai’r Cynulliad fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu eu cymunedau.”