Y Prif Weinidog i gael ei holi am ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng economaidd.

Cyhoeddwyd 24/09/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Prif Weinidog i gael ei holi am ymateb Llywodraeth Cymru i’r argyfwng economaidd.

Bydd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, yn ymddangos gerbron pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad ar 1 Hydref.

Bydd yn wynebu cwestiynau gan Y Pwyllgor Craffu ar Waith Prif Weinidog Cymru ynghylch y modd mae ei Lywodraeth wedi ymdrin â’r cwymp economaidd presennol a’r effaith a gaiff hyn ar wasanaethau cyhoeddus llinell flaen yng Nghymru.

“Mae’r dirywiad economaidd presennol wedi cael effaith uniongyrchol ar lawer o bobl ledled Cymru,” meddai Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Pa un a ydynt wedi colli eu gwaith neu wedi gweld siopau’n cau a gwasanaethau’n dod i ben, mae pawb yng Nghymru yn siarad amdano.

“Dyna pam mae’n bwysig ein bod ni, fel Aelodau’r Cynulliad, yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth sy’n bosibl i leddfu’r effaith ar bobl Cymru.”

Mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith Prif Weinidog Cymru yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn i holi’r Prif Weinidog ynghylch cyfres o bynciau.

Eleni, cynhelir y sesiwn graffu yn Ystafell Bwyllgora 4 ar 1 Hydref rhwng 9am ac 11am.