Y pumed adroddiad ar leihau allyriadau carbon yn galw am wneud rhagor i helpu ffermwyr i leihau eu hôl troed carbon

Cyhoeddwyd 21/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y pumed adroddiad ar leihau allyriadau carbon yn galw am wneud rhagor i helpu ffermwyr i leihau eu hôl troed carbon

Mae Pwyllgor Cynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw (Gorffennaf 21) wedi lansio ei bumed adroddiad ar leihau allyriadau carbon yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn edrych ar leihau carbon drwy newid sut yr ydym yn defnyddio ac yn rheoli tir yng Nghymru.

Teimlai’r Pwyllgor fod angen rhagor o gymorth ar ffermwyr gan Lywodraeth Cymru i fesur eu hôl troed carbon.

Mae’r Aelodau hefyd am i Lywodraeth Cymru feithrin ffyrdd o rannu gwybodaeth am ddatblygiadau gwyddonol gyda ffermwyr a thirfeddianwyr er mwyn defnyddio’r datblygiadau hynny er gwell i leihau allyriadau carbon.

At hynny, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am bwysigrwydd cadw cymaint o garbon â phosibl yn y pridd.

“Amcangyfrifir fod 23.4 y cant o arwynebedd y tir yng Nghymru sydd wedi’i orchuddio â mawn a phriddoedd organig ac organomwynol yn cynnwys 500 megadunnell o garbon sydd eisoes wedi’i storio,” meddai Mick Bates AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Gobeithiaf fod yr adroddiad hwn yn dechrau rhoi sylw i’r darlun gwyddonol cymhleth yn y maes, a’i fod yn amlinellu’r camau allweddol y gellir eu cymryd wrth ddefnyddio tir mewn ffordd wahanol, gan gynnwys mewn amaethyddiaeth a choedwigaeth, er mwyn cyfrannu at leihau allyriadau nwyon ty gwydr yng Nghymru.”

Mae prif argymhellion yr adroddiad fel a ganlyn:

  • Dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r cyllid sydd ar gael ar gyfer Glastir bob blwyddyn i sicrhau bod digon o gyllid ar gael i ateb y galw.

  • Dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo’r manteision economaidd sydd ynghlwm wrth fesurau arbed carbon Glastir, gan wneud hynny fel rhan o’r cynllun.

  • Dylai Llywodraeth Cymru lobïo Llywodraeth y DU a’r UE i sicrhau bod lleihau allyriadau carbon yn un o amcanion allweddol unrhyw gynllun taliadau sydd ar gael i bob fferm yn ystod adolygiad nesaf y Polisi Amaethyddol Cyffredin.   

  • Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu gwasanaeth penodol i ffermwyr a rheolwyr tir sy’n rhoi gwybodaeth iddynt am leihau allyriadau carbon.

  • Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi’r syniad o ddatblygu a chyflwyno dull o fesur ôl-troed carbon y gall pob ffermwr a rheolwr tir ei ddefnyddio gan wneud hynny cyn gynted â phosibl. Dylid ei gyflwyno’n raddol gan gynnig cyngor a chymorth i bob ffermwr a rheolwr tir ynglyn â sut i’w ddefnyddio.

  • Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu dulliau o rannu datblygiadau gwyddonol â ffermwyr a pherchnogion tir er mwyn pwysleisio sut y gallant helpu i leihau allyriadau carbon yn ogystal â phwysleisio’r manteision economaidd.

  • Dylai Llywodraeth Cymru gytuno ar ffigur sylfaenol i nodi faint o garbon sydd mewn priddoedd organig yng Nghymru ar hyn o bryd a dylai’r holl gyrff sy’n gweithio yn y maes hwn ddefnyddio’r ffigur hon.

  • Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi ymchwil sydd ar y gweill ar hyn o bryd i gadw carbon mewn priddoedd yng Nghymru a defnyddio’r darganfyddiadau hynny wrth greu polisïau defnyddio tir a pholisïau amaethyddol, cyn gynted ag y byddant ar gael.

  • Dylai Llywodraeth Cymru lobïo Llywodraeth y DU a’r UE i sicrhau bod rheoliadau pendant ar gael i ddiogelu priddoedd.

  • Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi’r ymchwil sydd ar y gweill i ddylifiadau carbon mewn priddoedd at ddibenion plannu coed yng Nghymru a defnyddio’r darganfyddiadau hynny wrth greu polisïau  defnyddio tir a pholisïau amaethyddol, cyn gynted ag y byddant ar gael.

  • Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi’r Comisiwn Coedwigaeth i gyflwyno ac i farchnata cynnyrch pren fel deunyddiau amgen ar raddfa fasnachol.

  • Dylai Llywodraeth Cymru gynnal ymchwil i’r modd y gellir rhoi cynllun masnachu carbon ar waith, yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn y sector defnyddio tir.

1)Bydd yr adroddiad yn cael ei lawnsio yn stondyn y Cynulliad Cenedlaethol yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd am 12.00