Y Pwyllgor Archwilio i drafod contract meddygon teulu

Cyhoeddwyd 12/10/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Archwilio i drafod contract meddygon teulu

Yr wythnos hon ac yn ei gyfarfod cyntaf o’r tymor newydd bydd y Pwyllgor Archwilio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar incwm meddygon teulu yng Nghymru.

Bydd y pwyllgor yn holi Ann Lloyd, pennaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, ynglyn â’r contract newydd ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol. Darganfu adroddiad ar y contract meddygon teulu gan yr Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman, ei fod yn rhoi rhai manteision i gleifion ond bod angen iddo gael ei reoli’n well. Mae pryderon ynglyn â chost y contract, ei effaith ar wasanaethau, ac a ydyw’n rhoi gwerth am arian i bobl Cymru.

Bydd Aelodau hefyd yn ystyried adroddiadau ar raglen drafft yr Archwilydd Cyffredinol o archwiliadau o werth am arian a’i amcangyfrif o incwm a threuliau Swyddfa Archwilio Cymru.

Meddai David Melding AC, cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Mae gennym agenda herfeiddiol iawn ar gyfer ein cyfarfod cyntaf y tymor hwn, ond mae’n bwysig ein bod yn bwrw ati i archwilio a chraffu ar wariant cyhoeddus yng Nghymru.”

Cynhelir y cyfarfod am 1.30pm ddydd Iau 18 Hydref yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd, Bae Caerdydd. Manylion pellach am y pwyllgor