Y Pwyllgor Archwilio i drafod cyllid ELWa
Yn ei gyfarfod nesaf, bydd y Pwyllgor Archwilio yn clywed tystiolaeth sy'n ymwneud ag adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyllid ELWa.
Ymhlith y rhai a fydd yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor y mae'r Dr Steve Marshall, Cyfarwyddwr yr Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Yn yr un cyfarfod, bydd yr Aelodau yn trafod rheoli ystadau a chaffael yn y sector addysg bellach. Byddant hefyd yn ystyried cyngor yr Archwilydd Cyffredinol ynghylch ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar ddiogelu staff y GIG rhag trais a'i adroddiad ar y gwasanaeth meddygon teulu tu allan i oriau arferol yng Nghaerdydd.
Cynhelir y cyfarfod am 1.30pm yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd.
Manylion llawn ac Agenda
Y Pwyllgor Archwilio i drafod cyllid ELWa
Cyhoeddwyd 15/06/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014