Y Pwyllgor Archwilio i drafod gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion

Cyhoeddwyd 12/01/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Archwilio i drafod gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion

12 Ionawr 2006

Bydd Pwyllgor Archwilio'r Cynulliad yn clywed tystiolaeth gan ddau bennaeth iechyd y llywodraeth mewn cysylltiad ag adroddiad yn amlygu'r problemau â gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion yng Nghymru.

Sylwodd Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru, fod angen gwella gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion er mwyn bodloni targedau Llywodraeth y Cynulliad. Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan Ann Lloyd, pennaeth adran iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad a Philip Chick, cynghorydd polisi iechyd meddwl Llywodraeth y Cynulliad, mewn cyfarfod ddydd Iau 12 Ionawr. Yn yr un cyfarfod, bydd Aelodau yn clywed ymateb Llywodraeth y Cynulliad i adroddiadau Pwyllgorau blaenorol, yn cynnwys un ar gwymp Antur Dwyryd Llyn, asiantaeth fenter y Gogledd. Cynhelir y cyfarfod am 1.30pm yn Ystafelloedd Pwyllgora 3 a 4, Bae Caerdydd. Manylion llawn ac Agenda