Cyhoeddwyd 23/11/2006
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Y Pwyllgor Archwilio i drafod sut i wella mynediad cyhoeddus i gefn gwlad Cymru
Bydd y Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad Cenedlaethol yn cael tystiolaeth ar fynediad cyhoeddus i gefn gwlad yn ei gyfarfod nesa.
Bydd Gareth Jones, Pennaeth Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad Llywodraeth Cynulliad Cymru, a Roger Thomas, Prif Weithredwr Cyngor Cefn Gwlad Cymru, yn annerch y cyfarfod.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn, dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru fod pobl yn cael mynediad i fwy o ardaloedd o gefn gwlad Cymru, diolch i weithrediad llwyddiannus Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Fodd bynnag, dylid rhannu ymarfer da yn ehangach er mwyn annog defnydd cyhoeddus o gefn gwlad.
Yn yr un cyfarfod bydd y Pwyllgor yn clywed ymateb Llywodraeth y Cynulliad I’w
adroddiad ar Merlin,
Cynhelir y cyfarfod am 9.30am yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd.
Manylion llawn ac agenda