Y Pwyllgor Archwilio i drafod y Fenter Twyll Genedlaethol
Bydd Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad yn trafod adroddiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru ar y Fenter Twyll Genedlaethol gyda Mr Jeremy Colman, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a hynny yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor ddydd Iau, 3 Gorffennaf.
Canfu’r adroddiad, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, fod Menter Twyll Genedlaethol 2006/2007 wedi arwain at arbedion mawr mewn gwariant cyhoeddus ac wedi helpu’r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella ei brosesau ar gyfer atal twyll.
Bydd Aelodau’r pwyllgor hefyd yn trafod ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’w adroddiad ar leihau heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd mewn Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru.
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd am 9:30am ddydd Iau, 3 Gorffennaf.
Rhagor o wybodaeth am y pwyllgor