Y Pwyllgor Archwilio i drafod y Gronfa Ysgolion Gwell
16 Chwefror 2006Bydd Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad yn derbyn tystiolaeth ynglyn âg adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y Gronfa Ysgolion Gwell yn ei gyfarfod nesaf.
Canfu’r Archwilydd Cyffredinol, Jeremy Colman, fod y Gronfa Ysgolion Gwell – sef system newydd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer darparu grantiau i Awdurdodau Lleol i helpu gyda hyfforddiant a datblygiad athrawon – yn welliant ar y cynllun oedd yn ei ragflaenu. Fodd bynnag, mae sialensau i’w datrys o hyd. Yn yr un cyfarfod, bydd Aelodau’n trafod ymateb Llywodraeth y Cynulliad i adroddiadau’r Pwyllgor ar reoleiddio rheoli gwastraff yng Nghymru ac ar arian y GIG. Bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried rhaglen derfynol astudiaethau gwerth am arian yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfer 2006-07. Bydd y cyfarfod yn digwydd am 1.30pm ddydd Iau, Chwefror 16 Manylion llawn ac Agenda