Cyhoeddwyd 06/07/2006
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Y Pwyllgor Archwilio i holi Prif Weithredwr y GIG ynghylch cynnydd o ran amseroedd aros
Bydd Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad yn holi Ann Lloyd, pennaeth Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth y Cynulliad, ynghylch cynnydd a wnaed o ran mynd i’r afael ag argymhellion blaenorol y Pwyllgor ar amseroedd aros y GIG.
Yn yr un cyfarfod, bydd y Pwyllgor yn casglu tystiolaeth gan Ms Lloyd a Syr Jon Shortridge, yr Ysgrifennydd Parhaol, ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfrifon y Cynulliad a chyrff y GIG.
Bydd Aelodau hefyd yn ystyried ymateb Llywodraeth y Cynulliad i adroddiad y Pwyllgor ar Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, am 1.30pm ddydd Iau 6 Gorffennaf.
Manylion llawn ac agenda