Y Pwyllgor Archwilio yn canfod fod angen gwneud mwy i atal a rheoli heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd

Cyhoeddwyd 07/05/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Archwilio yn canfod fod angen gwneud mwy i atal a rheoli heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd

Mae angen gwneud mwy i atal a rheoli heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Bwyllgor Archwilio’r Cynulliad.

Canfu’r Pwyllgor Archwilio fod ymddiriedolaethau’r GIG wedi gwneud cynnydd da wrth fynd i’r afael â heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd. Serch hynny, mae angen gwneud mwy, yn enwedig i wella prosesau, capasiti a gwybodaeth, gan nad yw pawb yn dal i gymryd cyfrifoldeb dros atal a rheoli heintiau.

Mae’r adroddiad hefyd yn datgan bod y dull ehangach yng Nghymru o fynd i’r afael â phob haint sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, yn hytrach na’r rhai amlycaf yn unig, wedi gostwng cyfraddau heintiau. Mae’n ymddangos bod hyn yn arbennig o wir wrth gymharu cyfraddau heintiau Cymru â rhai Lloegr, ble mae’n ymddangos bod y dull cenedlaethol wedi canolbwyntio’n benodol ar MRSA.

Fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn pryderu ynghylch tystiolaeth sy’n awgrymu bod mynychder yr heintiau C. difficile wedi cynyddu’n sylweddol yng Nghymru rhwng 1993 a 2005, a’i bod yn ymddangos bod heintiau ar ôl llawdriniaethau hefyd yn broblem yng Nghymru.

Dywedodd David Melding, cadeirydd y pwyllgor: “Mae’r pwyllgor yn fodlon bod y dull yng Nghymru wedi dechrau arwain at y newid diwylliannol sy’n angenrheidiol i wella’r broses o atal a rheoli heintiau. Mae’n fodlon hefyd bod penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ganiatáu ymddiriedolaethau’r GIG i bennu eu targedau lleihau heintiau eu hunain, yn hytrach na rhagnodi targedau cenedlaethol, wedi creu perchnogaeth ymysg ymddiriedolaethau’r GIG.

“Fodd bynnag, mae llawer o waith i’w wneud er mwyn i’r broses o atal a rheoli heintiau roi canlyniadau boddhaol. Fel pwyllgor, rydym yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wneud mwy i wella’i phrosesau ar gyfer ymdrin â heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, a hynny er mwyn adeiladu ymhellach ar y cynnydd sydd eisoes wedi’i wneud.”