Cyhoeddwyd 07/02/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Y Pwyllgor Cefn Gwlad i wrando ar dystiolaeth gan benaethiaid uwchfarchnadoedd ar y strategaeth laeth
Bydd Aelodau Pwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad y Cynulliad yn cael y cyfle i holi penaethiaid uwchfarchnadoedd am brisiau llaeth yn eu cyfarfod nesaf.
Bydd cynrychiolwyr Tesco a Sainsbury’s yn dod i’r cyfarfod fel rhan o drafodaeth y Pwyllgor ar ymgynghoriad Llywodraeth y Cynulliad ar y strategaeth laeth.
Dywedodd Glyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r diwydiant llaeth yng Nghymru yn wynebu anawsterau sylweddol ac mae’n hanfodol bwysig bod y llywodraeth yn darparu strategaeth briodol. Rwy’n falch iawn y bydd Aelodau’n cael y cyfle i siarad gyda chynrychiolwyr Tesco a Sainsbury’s. Byddwn yn gwrando ar dystiolaeth gan undebau’r ffermwyr mewn cyfarfod yn y dyfodol.”
Yn yr un cyfarfod, bydd y Pwyllgor yn trafod cyllideb yr amgylchedd, cynllunio a chefn gwlad, ac yn edrych ar sut y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gweithredu argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor mewn adroddiadau blaenorol, er enghraifft TB mewn gwartheg, tai fforddiadwy ac ailgylchu.
Cynhelir y cyfarfod am 9.30am, ddydd Mercher 7 Chwefror, yn Ystafell Bwyllgora 1, y Senedd, Bae Caerdydd.