Cyhoeddwyd 01/02/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Y Pwyllgor Addysg i drafod Addysg Bellach
Yn ei gyfarfod nesaf ar Ddydd Iau 1 Chwefror, bydd Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod y ddarpariaeth Addysg Bellach yng Nghymru..
Bydd Syr Adrian Webb yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am yr adolygiad o’r Sector Addysg Uwch, a bydd Nick Ainger AS yn bresennol wrth i’r Pwyllgor graffu ar y Mesur Addysg Bellach a Hyfforddiant. Mae’r Mesur yn cynnig cymwyseddau deddfwriaethol gwell, ac ystod o bwerau deddfu newydd, i’r Cynulliad Cenedlaethol ar faterion sy’n ymwneud ag Addysg Bellach a Hyfforddiant.
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 2, Y Senedd o 9.00am tan 12.30pm.
Manylion llawn ac agenda
I archebu lle ffoniwch 0845 010 5500 neu e-bostiwch assembly.bookings@wales.gsi.gov.uk
Cofiwch hysbysu’r swyddfa docynnau am unrhyw anghenion arbennig sydd gennych.