Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i drosglwyddo tystiolaeth mewn perthynas â Swyddfa Archwilio Cymru i’r heddlu

Cyhoeddwyd 29/03/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i drosglwyddo tystiolaeth mewn perthynas â Swyddfa Archwilio Cymru i’r heddlu

29 Mawrth 2011

Bydd tystiolaeth a gasglwyd yn ystod ymchwiliad gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ymddygiad Swyddfa Archwilio Cymru, pan oedd Mr Jeremy Colman, y cyn Archwiliwr Cyffredinol, yn ei harwain, yn cael ei rhoi i’r heddlu i’w hymchwilio ymhellach.

Daeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i’r casgliad bod ymddygiad Jeremy Colman, cyn-Archwilydd Cyffredinol Cymru, a’i reolaeth o’r swyddfa archwilio rhwng 2005 a 2009 wedi syrthio lawer yn is na’r safon a ddisgwylir wrth swyddog cyhoeddus uchel-radd.

Mae adroddiad newydd yn honni bod Mr Colman, y cyn-Archwilydd Cyffredinol, wedi camarwain y Pwyllgor o ran gwir sefyllfa ariannol Swyddfa Archwilio Cymru, yn enwedig mewn perthynas â datgelu pecynnau diswyddo yn llawn yn y cyfrifon blynyddol.

Pe bai’r holl wybodaeth wedi bod ar gael, byddai Swyddfa Archwilio Cymru wedi dangos gorwariant sylweddol yn ei gyfrifon yn ystod y pum mlynedd flaenorol. Fel yr oedd, ni ddaeth maint y gorwariant i’r amlwg nes yn ddiweddar, a gofynnwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwilio’r mater.

Roedd yr adroddiad a gyhoeddwyd o ganlyniad i’r ymchwiliad hwn yn beirniadu Swyddfa Archwilio Cymru am fethu â chyrraedd y safonau cyfrifeg sefydledig a ddisgwylir wrth gorff cyhoeddus.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus “Gresyn oedd yr angen i ni ystyried y materion hyn, a chredwn eu bod wedi eu hachosi gan ymddygiad un person a benderfynodd nad oedd y safonau uchel a ddisgwylir wrth ddeiliad swydd yr archwilydd cyffredinol yn berthnasol iddo.”

“Mae enw da Swyddfa Archwilio Cymru, corff sydd â dyletswydd i sicrhau gwerth am arian cyhoeddus, wedi cael ei niweidio’n ddifrifol a mawr yw’r clod sy’n ddyledus i Huw Vaughan Thomas, yr Archwilydd Cyffredinol presennol, am fynd i’r afael â’r problemau poenus hyn yn uniongyrchol er mwyn adfer hyder y cyhoedd yn y sefydliad.

“Cred fy nghyd-aelodau a minnau bod cwestiwn yn parhau o ran a ellir ystyried agweddau ar ymddygiad Mr Colman yn droseddol, ac ni fydd y cwestiwn hwn yn cael ei ateb nes bod yr awdurdod priodol yn adolygu’r dystiolaeth rydym wedi ei chasglu. Dyna paham yr ydym wedi cymryd y cam difrifol o drosglwyddo ein hadroddiad i Heddlu De Cymru er mwyn ei ystyried ymhellach.”

“Hefyd, rydym wedi argymell gweithdrefnau cyfrifeg mwy llym a ffurfiol i Swyddfa Archwilio Cymru eu dilyn, a bod yr archwilydd cyffredinol yn dangos sut y bydd yn mynd i’r afael â’r gorwariant sylweddol a ddarganfuwyd yn y cyfrifon blaenorol.”

“Gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn dechrau’r gwaith o leddfu’r pryderon ynghylch cyfrifeg, llywodraethiant a phriodoldeb sydd wedi datblygu yn ystod cyfnod Mr Colman yn y swydd ac a ddatgelwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.”

Atodir adroddiad llawn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, neu gallwch ei weld a’i lwytho yma.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, gan gynnwys ymchwiliadau cyfredol a rhai’r gorffennol, yma.