Y Pwyllgor Cyllid i glywed tystiolaeth gan undebau am Bartneriaethau Cyhoeddus-Preifat

Cyhoeddwyd 07/04/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Cyllid i glywed tystiolaeth gan undebau am Bartneriaethau Cyhoeddus-Preifat

Bydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol yn clywed tystiolaeth yr wythnos hon gan TUC Cymru ac Unsain fel rhan o’i ymchwiliad i Bartneriaethau Cyhoeddus-Preifat.

Mae’r Pwyllgor am ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio arian preifat ar gyfer prosiectau sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae’n cynnal ymchwiliad i Bartneriaethau Cyhoeddus-Priefat, gan gynnwys cynlluniau PFI.  

Bydd y Pwyllgor hefyd yn trafod papur methodoleg yn ystyried sut y caiff opsiynau’r sectorau cyhoeddus a phreifat eu cymharu wrth benderfynu a yw cynllun PPP/PFI yn cynnig gwell gwerth am arian na’r opsiynau confensiynol.  

Dywedodd Alun Cairns AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Rydym yn cynnal ymchwiliad cwbl wrthrychol i weld a ddylid defnyddio rhagor o bartneriaethau cyhoeddus-preifat yng Nghymru. Byddwn yn edrych ar yr holl dystiolaeth yn ofalus cyn gwneud unrhyw argymhellion. Edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan yr undebau i’w ddweud.”

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 10am ddydd Iau 10 Ebrill yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd. Cewch ragor o fanylion yma.

Mae gwybodaeth i newyddiadurwyr am rôl, cyfrifoldebau a phwerau deddfu newydd y Cynulliad ar gael ar-lein yn ein pecyn gwybodaeth i’r cyfryngau.