Y Pwyllgor Cyllid i graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 30/10/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Cyllid i graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

Bydd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru. Disgwylir i’r Llywodraeth osod y gyllideb ar Dachwedd 5, ac o dan Reolau Sefydlog y Cynulliad, mae gan y Pwyllgor bedair wythnos i graffu ar y gyllideb a chyflwyno adroddiad ar yr hyn mae’n ei ddarganfod.  Bydd y Pwyllgor yn cynnal pedwar cyfarfod yn ystod yr amser hwnnw i wneud yn siwr fod y gyllideb arfaethedig yn cael ei chraffu’n drwyadl a phriodol.                           Ddydd Iau, 8 Tachwedd, bydd y Pwyllgor yn gwahodd Andrew Davies, y Gweinidog Cyllid i gyflwyno’r gyllideb ac esbonio’r gwariant arfaethedig ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.   Ddydd Mawrth 13 Tachwedd, bydd y Pwyllgor yn cael tystiolaeth gan y GIG a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar effaith y gyllideb yn eu maes gwasanaeth hwy. Caiff pob un o Bwyllgorau’r Cynulliad gyfle i graffu ar y gyllideb ddrafft ac i ystyried effaith posibl y gwario arfaethedig yn eu maes diddordeb hwy. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn ystyried adroddiadau gan Bwyllgorau eraill y Cynulliad yn ei gyfarfod ddydd Iau, 22 Tachwedd.   Yn ystod ei gyfarfod olaf ar y gyllideb ddydd Mawrth 27 Tachwedd, bydd y Pwyllgor Cyllid yn cytuno ar ei argymhellion cyn paratoi adroddiad llawn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gall y Pwyllgor, os yn briodol, argymell newidiadau i gynlluniau gwario’r Llywodraeth.                    Dywedodd Alun Cairns AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Bydd y gyllideb ddrafft yn amlinellu blaenoriaethau o ran gwariant Llywodraeth Cynulliad Cymru dros y flwyddyn nesaf ac mae’n holl bwysig fod y Cynulliad a’r Llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd yr adeg yma i sicrhau bod y gyllideb wedi’i seilio’n gadarn. Mae’r Pwyllgor a minnau’n edrych ymlaen at weithio gydag Andrew Davies, y Gweinidog Cyllid, wrth inni ymdrechu i sicrhau bod y gyllideb yn gwasanaethu pobl Cymru’n dda ac yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf yn cael eu darparu iddynt.” Mwy o fanylion am y Pwyllgor