Y Pwyllgor Cyllid i holi’r Gweinidog am gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 26/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Pwyllgor Cyllid i holi’r Gweinidog am gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru

Mae’r Pwyllgor Cyllid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru am gynnal cyfarfod ychwanegol gyda’r Gweinidog dros Gyllid, Andrew Davies, ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cyflwynodd y Gweinidog ei gyllideb gerbron y pwyllgor yn ystod y cyfarfod ar 8 Tachwedd. Ers hynny, mae’r pwyllgor wedi cymryd tystiolaeth gan gynrychiolwyr llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd gwladol a phwyllgorau eraill y Cynulliad. Mae’r Pwyllgor Cyllid yn awr yn bwriadu cynnal sesiwn derfynol lle y gall holi’r Gweinidog ynglyn â’r dystiolaeth y mae’r pwyllgor wedi’i chael.

Meddai Alun Cairns AC: “Fel Pwyllgor Cyllid y Cynulliad, mae craffu ar y gyllideb ddrafft yn swyddogaeth holl bwysig. Yr ydym wedi casglu tystiolaeth bwysig a gwerthfawr i’r pwyllgor gan dystion yn ddiweddar ac edrychwn ymlaen at gael trafodaeth gref ac effeithiol gyda’r Gweinidog.”

Cynhelir y cyfarfod am 9.30am ddydd Mawrth 27 Tachwedd yn y Senedd. C

Manylion pellach am y pwyllgor