Y Pwyllgor Cyllid yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Gyllideb yng Nghymru

Cyhoeddwyd 02/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/10/2020

Heddiw mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn lansio ei ymgynghoriad cyhoeddus ar Gyllideb Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf (2021/22). Ar ran pobl Cymru, bydd pwyllgorau’r Senedd yn edrych ar y blaenoriaethau a’r manylion yn y Gyllideb.

Daw’r Gyllideb ddrafft ar adeg pan gaiff symiau digynsail o arian eu gwario ar gamau i ymdrin ag effaith COVID-19.

Dros yr haf cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid arolwg ar y cyfryngau cymdeithasol i fedru deall yn well beth yw blaenoriaethau’r cyhoedd yng Nghymru ar gyfer gwariant, a’u barn ar y gyllideb sydd ar ddod, a hynny yn yr hinsawdd sydd ohoni. Roedd yr arolwg yn rhoi golwg defnyddiol i’r Pwyllgor cyn iddo graffu ar y Gyllideb.

Dywedodd un person a wnaeth ymateb i’r arolwg:

"Addysg ac iechyd yw’r blaenoriaethau amlwg, ond mewn cyfnod ôl-Covid, ôl-Brexit, mae angen i Lywodraeth Cymru gyfeirio arian at yr economi, os ydym am sicrhau bod busnesau a swyddi yng Nghymru yn goroesi."

Mi fydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cael ei chyflwyno gerbron Aelodau o’r Senedd ym mis Rhagfyr ar gyfer craffu arni. Fel arfer, mae’r gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi ym mis Hydref, ond eleni bydd yn cael ei gohirio gan nad oes gan Lywodraeth Cymru syniad ynghylch cyfanswm y cyllid sydd ar gael nes bod Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cyllid ar gyfer Cymru.

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans AS, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r Gyllideb ddrafft amlinellol a’r drafft manwl gyda’i gilydd ar 8 Rhagfyr 2020, a’r Gyllideb derfynol ar 2 Mawrth 2021.

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru tra bod pwyllgorau eraill y Senedd yn edrych yn fanwl ar adrannau penodol neu bortffolios gweinidogol.

Mae’r Pwyllgor eisiau clywed barn pobl Cymru. Mae gwybodaeth am sut i gyfrannu at yr ymgynghoriad ar gael yma.

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

“Mae COVID-19 wedi effeithio’n sylweddol ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gwario arian. Mae symiau digynsail yn cael eu gwario ar ein gwasanaeth iechyd ac ar gefnogi busnesau drwy’r cyfnod heriol yma.

“Mae’n bwysicach nag erioed erbyn hyn bod Aelodau o’r Senedd a’r cyhoedd yn rhan o broses y Gyllideb. Mae bywydau, swyddi a busnesau yn dibynnu ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru, a gobeithio y bydd cynifer â phosibl o bobl yn cysylltu â ni ac yn ymddiddori yn ymgynghoriad y Pwyllgor.”